Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y GWYLIEDYDD. Uyfr XII] MEHEFIN, 1835. [Rhif. 146. COFIANT Y DIWEDDAR BARCH. MR. BERRIDGE. Ceir llawer o hanes bywyd, myfyrdod, ;t thröedigaeth y diweddar Barch. Mr. Öerridge, Ficer Everton, Swydd Bedford, ynghyd â chynnydd crefydd y'mysg ei bobl, mewn llythyr oddi wrtho ef at gyf- 4ill, dyfyniad o ba un a roddwn fel y canlyn:— " Everton, Gorph. 3, 1758. "Barchedig ac Anwyl Syr—Fy ny- ìrumiad a'm bwriad yn y llythyr hwn yw hysbysu i chwi yr hyn a wnaeth yr Ar- glwydd yn ddiweddar i'm henaid: i'r Oiben hyn bydd yn angenrheidiol rhoddi i chwi ychydig hytforddiad blaenorol mewn perthynas i'in hymarweddiad o'm mebyd Hyd yr awr hon. Pan oeddwn ynghylch pedair ar ddeg oed, rhyngodd bodd i t>duw ddangos i mi fy mod yn bechadur, * bod yn rhaid fy ngeni drachefn cyn y ■Hedrwn fwynhau teyrnas nefoedd. Yn ganlynol dechreuais ddarllen, gweddio a gwylio; ac felly y galluogwyd íì i gyn- lyddu mewn sancteiddrwydd. Yn y 'Hodd hyn aethum y'mlaen hyd o fewn y chwe mis diweddaf, er nid bob amser gyd ^'r un gradd o ddiwydrwydd. Tybiais *f hun ar yr iawn ifordd i'r nefoedd, er fy *Hod etto yn llwyr allan o'r ffordd; a toeddyliais fy mod yn teithio tua Sion, er na throais fy wyneb etto tu ag yno. Yn Udiau dangosodd Duw fy mod yn rhag- lithiwr, trwy beidio arddel fy ngweinidog- Uetli; ond ni sylwais ar hyn dros hir am- ser, gan gyfrif fy niffyg llwyddiant i galonau drwg fy ngwrandawyr, ac nid i'm hathrawiaeth ddrwg fy hun. Gofyn- wch, mae 'n bossibl, pa beth oedd fy athrawiaeth? Yr oedd yn athrawiaeth ag y mae pob dyn di-ailanedig yn ei hoflì, sef, ein bod yn cael ein cytiawnhau mewn rhan trwy ffydd, ac mewn rhan trwy weithredoedd. Pregethais yr athrawiaeth hon dros chwé blynedd mewii Curadiaeth; MEHEFIN, 1835. ac er i mi gymmeryd poen mawr, a gwasgu arnynt yr angenrheidrwydd am sancteidd- rwydd gyda thaerineb mawr, etto arosas- ant mor ansanctaidd ag o'r blaen, ac ni ddygwyd un enaid at Grist. Yr oedd yn wir fwy o ffurf crefydd yn y plwyf, ond nid oedd mwy o'i grym. O'r diwedd symudais i Everton, lle y bum yn byw hyd yma. Yno drachefn y pregethais sancteiddhad ac adenedigaeth yn dra zel- og; ond heb weled dim llwyddiant: ar ol dwy flynedd o bregethu yn y modd yma, dechreuais ddigaloni, a dechreuodd rhyw ammheuon gyfodi yn fy meddwl nad oeddwn yn gywir fy hun. Digwyddodd hyn ynghylch y Nadolig diweddaf. Yr ammheuon a gynnyddasant fwyfwy, ac o'r diwedd yn dra phoenus. Mewn mawr drallod meddwl yr oeddwn, a gwaeddais yn daer ar yr Arglwydd. Iaith gysson fy nghalon oedd hyn—' Arglwydd, os wyf ar yr iawn, cadw fi yno; os nad wyf ar yr iawn, gwna fi felly. Tywys fi i adnabydd- iaeth o'r gwirionedd megys y mae efe yn yr Iesu.' Ar ol gweddio ynghylch deng niwrnod ar yr Arglwydd, gwelodd fod yn dda ateb fý ngweddiau yn y modd rhy- feddol canlynol:—Fel yr oeddwn yn eis- tedd yn fy nhý un boreu, ac yn myfyrio ar ran o'r Ysgrythyr Lân, neidiodd y geiriau canlynol i'm meddwl gyd âg awd- urdod mawr, megys pe buasai lais o'r nef, sef ' Paid à dy weithredoedd dy hun.' Cyn clywed o honof y geiriau hyn, yr oedd fy meddwl mewn tawelwch anarferol; ond cyn gynted ag y clywais hwynt, yr oedd fy enaid yn gynhyrfus yn y fan, a rhedodd dagrau o'm llygaid fel llif-ddwfr. Syrthiodd y llen oddiar fy Hygaid yn ebrwydd, ac yn awr y gwelais yn eglur y graig ar ba un y bum yn dryllio er's agos i ddeng mlynedd ar hugain. A ydych yn gofyn, pa beth oedd y graig hon? Rhyw