Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y gwyliedydd. tLYPR' XII.] MAI, 1835. [Rhif. 145. ÿregiŵ Yr awr hon, Arglwydd, y gollyngi dy was mewn tangnefedd.—Luc iî. 29. Y geiriao hyn a lefarwyd gan Simeon, gwr cyfiawn a duwiol, yn disgwyl am ddi- ddanwch yr Israel, sef Iesu Grist yn y cnawd; yr hwn, wedi ei ddwyn gan ei ri- eni i'r denil, a gymmerodd Simeon yn ei freichiau, ac a fendithiodd Dduw, ac a ddywedodd, " Yr awr hon, Arglwydd, y gollyngi dy was mewn tangnefedd." Nid oes dim yn dangos rhagor rhwng pobl Dduw ac ereill yn fwy na'r gwahanol «fFaith y mae dyfodiad angeu yn ei gael arnynt. Gan y naill edrychir arno fel Cyfaill caredig, ond gan yr annuwiol cyf- 'ifir ef megys gelyn creulon. Mae geiriau y testun yn gosod allan deimladau gwas yr Ârglwydd wrth edrych ar angeu yn dyfod trwy genad ei Feistr nefol i gyf- Hewid ei lafur blinedig ar y ddaear am orphwysfa dawel yn y nefoedd. Maent în egluro meddwl un a fu am flynyddoedd yn disgwyl am yr awr, pan y goddefid *ddo ymadael mewn tangnefedd, pan y clywai fod ei waith wedi ei orphen, a bod Hiyddhad wedi ei roddi iddo oddiwrth ei holl wasanaeth ar y ddaear, a bod iddo fynediad yn awr i lawenydd ei Arglwydd, mewn byd y bydd iddo gael y fraint o'i Wasanaethu ef wrth ei fodd, gyda serch- iadau tanllyd, zel wresog, ac egni nerth- ol, y rhai ni ddiffygiant dros fynyd am dragywyddoldeb. Yn y goleu hyn yr edrych y Cristion gyd âg hyfrydwch ar angeu, ac ni edrychodd y milwr erioed yn fwy llawen ar ddiwedd ei wasanaeth; ac öi welodd y morwr, wedi ei guro gan y dymhestl, yn fwy diolchgar am yr hafan tteu 'r porthladd tawel dymunol; ac ni chanfu yr alltud neu 'r dieithr a fu am hir ítmser o dir ei wlad ei hun yr olwg gyntaf ar ei hen gartref a'i gyfeillion yn fwy lla- Wen a diolchgar nag y mae y credadyn yn MAi, 1835. cyfarfod âg angeu. Gwir yw fod y Crist- ion, megys ereill, yn teimlo poen wrth dori cylymau cedyrn melys cariad sydd rhwng y corph a'r enaid. Ond pan ddel yr awr iddo fyned adref, mae'n foddlon, trwy flydd, i adael y cwbl dan ofal ei Dad nefol; ac er mor anwyl ganddo yw perth- ynasau, ceraint, a chyfeillion, mae un yn y nefoedd yn anfeidrol mwy anwyl na hwynt oll; ac er bod yn ofidus gadael y rhai hyn ar ol, gan mor agos ydynt at et galon, etto mae 'n annhraethol hyfryd ym- adael a bod gyda Christ yn dragywydd. Ac nid yw y chwant hwn am ymddattod a bod gyda Christ yn deilliaw oddiwrth anfoddlonrwydd i ddwyn y groes, yr hon a drefnodd cariad tadol iddo ef, ond oddi- wrth hiraeth sanctaidd i roddi heibio holl weddillion pechod am byth, a hyn a gym- mer le yn angeu. Mae 'n dymuno, gan hyny, ymadael â'r byd hwn, nid am ei fod yn draflerthus, ond am ei fod yn bechad- urus; nid cymmaint o ran diangc rhag ei ofidiau ag oddiwrth ei brofedigaethau. Nid oes dim murmur neu duchan yn ny- muniadau hiraethlon y Cristion am ym- ddattod, am nad oedd ei daith yn fwy es- mwyth trwy 'r anialwch; ond wrth edrych yn ol, ac ystyried daioni gwastadol ei Ar- glwydd tu ag ato ef bob cam o'r ffordd, llenwir ei galon â gwir ddiolchgarwch: ac er fod y flbrdd yn arw yn fynych, etto efe a deimla nail oedd yn fwy garw na'r hyn a weloddcariad tadol yn angenrheid- iol; ac hyd yn nod pan oedd arwaf, gwel inai 'r ffordd uniawn ydyw i dŷ ei Dad, a byddai foddlon i fyned ar hyd ffordd arwach am fwy o amser, pe hyny fyddai er gogoniant Duw. Ond trwy edrych ar angeu 'r groes mae ganddo farn gy wir am bechod, a chariad mawr at sancteidd-