Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y GWYLIEDYDD. Llyfr XII.] EBRILL, 1835. [Rhif. 144. TRAETHAWD AR « DDYN."* " Pa beth yw dyn?" Geilw y Bibl ef ÿn " Uchder llwch y byd." Yn ol y Dr. Rlorgan, " Dechreuad llwch y byd." Yn ol yr Hebraeg, " Pen llwch y byd." Yn ol y Saesoneg, " Rhan uchelaf o lwch y byd." Llwch yw dyn o ran ei gorph; ond y mae yn "rhan ucbelaf o lwch y byd." Afrth wneud yr holl greadigaeth, y gair Bydded oedd yn seinio uch y gwagle di- derfyn; ond cyn gwneud dyn, yr oedd y Drindod mewn cyngor, ac megys yn taflu golwg i annherfynolrwydd ei wybodaeth, Oiegys cywreiniwr mewn celfyddyd, pan Wedi suddo mewn Arddansoddiaetb, a'i gerbyd megys ar lithrigfa i anoddyfn; a'i gelfyddyd ar ogwymp o gyhydedd dynol- iaeth: yna, yn ei gyfyngder, yn hofli cael cymmorth cedyrn i fyned y'mlaen â'i beir- ianwaith. Er nad oedd Duw, wrth greu y byd, a phob peth sydd ynddo, wrth ei gyngor a'i ewyllys ei hun, yn ddiflygiol; etto y mae fel yn rhoddi terfyniad ar hyn, ac yn rhoddi tri o ewyllysiau mewn am- Iygiad cyn creu dyn, gan ddywedyd, " Gwnawn ddyn." " Felly Duw a gre- odd y dyn ar ei ddelw ei hun:"—ar ei ddelw naturiol, yn fôd ysprydol ac an- farwol; yn meddu deall, rhyddid ewyllys, rheswm, a llawer o serchiadau rheol- aidd:—ar ei ddelw freninol, yn rhaglaw dano ef ar holl greaduriaid y byd hwn: " Yn arglwyddiaethu ar bysg y môr, ac ar ehediaid yr awyr, ac ar yr anifeiliaid, ac ar yr holl ddaear, ac ar bob ymlusgiad a ymlusgo ar y ddaear:"—ac yn benaf, ar ei ddelw foesol—mewn gwybodaeth, cyf- iawnder, a gwir sancteiddrwydd; a char- iad, a'r holl rinweddau ereill y sydd yn cynnwys delw foesol y Duwdod. " Pa • Anfonwyd y Traethawd hwn i Gynideithas Gymreig Botbcsda, Swydd Arfon, yr hon a gyn- «aliodd ci Chylchwyl Cyntaf Ddydd Calan lon- *wr, 1835 : a bamwyd mai efe a deilyngni y gwobr, EBRILL, 1835. beth yw dyn?" " Çanys holl natur gwylltfilod, ac adar, ac ymlusgiaid, a'r pethau yn y môr a ddofir ac a ddofwyd gan y natur ddynol." Yr oedd ei gorph yn Uawn o iechyd a nerth, heb lygredd na marwoldeb, na thuedd i ofidio. Yr oedd ei wybodaeth o Dduw yn orlawn ; yr oedd yn rhydd, heb ddim cadwynau— dim rhwymau, ond cariad—dim carchar, ond Paradwys; ei debygoliaeth i Dduw yn llawn; ei undeb gyda Duw yn llawn; ei fwynhad o ffafr Duw yn llawn; a'i dded- wyddwch yn llawn. A phenderfynodd Duw y byddai i'w ddedwyddwch bar- hau cyhyd a'i uniondeb, a'i fywyd cy- hyd a'i ufudd-dod. Yn fyr, yr oedd y dyn mewn sefyllfa mor oruchel a dyrch- afedig ag y cynhyrfodd llid a chenfigen y cythreuliaid yn ei erbyn. Yr oedd y dyn fel llong harddwych, yn Ilawn o nwyfau, yn hwylio i fordaith bell, a'i thaith wedi ei rhagfwriadu er tragywyddoldeb; ac yn nghychwyniad ei thaith, pan oedd cyhyd- edd dynoliaeth yn asur y nef, a'r Yspryd tragywyddol yn llyw, a'r gwirionedd yn grwngylch, a'r addewidiou yn hwyliau; a hithau fel mellten yn rhwygo yr awyr ar weilgi drochionog ewyllya rydd; ac yn y wibfa fawr, aeth ar draws serth glogwyni ofnadwy anufudd-dod, nes aeth y llong, yr hon oedd yn frenines daear, a merch y nef, yn chwilfriw ar y las drochionog weilgi, a'r hwylbrenau yn cael eu llyngcu i fynu gan glawdd dynoliaeth. Wedi hyn diry wiodd dynoliaeth, adechreuodd angeu deyrnasu! Babanod hygar fel agorid y rhosyn blaguredig—gwyr ieuaingc cedyrn fel cedrwydd mewn tir cydrywiol, a gwyr cedyrn fel deri dwfn-wreiddiol, a syrthias- ant oll o flaen y gelyn hwn. Y cyfoethog a'r anghenus, y moesol a'r anfoesol, y call a'r anghall, deiliad y bwthyn aphreswyl- ydd y palas, gwas pechod a mab Duw, a gawsant oll eu gwtìiio i lettya i'r bedd N • ■ •