Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y GWYLIEDYDD. Llyfr XII.] MAWRTH, 1835. [Rhif. 143. PREGETH AR WEITHREDOEDD DA. u Edrychwch arnoch eich hunain, fel na chollom y pethau a wnaethom, ond bod i ni dderbyn llawn wobr.—2 Ioan 8. Y cwobrwyir Gweithredoedd Dasydd athrawiaeth a'r a ymrestra yni mhlith prif athrawiaethau y grefydd Gristionogol, ac a ddylai, yn ganlynol, gael ei gosod allan mewn cyssylltiad â'r rhanau ereill o'r gwirionedd dwyfol gan bob un a chwen- nychai fynegu i'w wrandawyr " holl gyngor Duw." Y mae yn wir i'r athraw- iaeth hon gael ei chamddefnyddio yn fawr, ac i ddrygau gresynol ddylifo i'r Eglwys Gristionogol oddiwrth y gwrthdròad o honi. Er hyny, pe byddai i ni gasglu oddiwrth y camarferiad o honi, fod yr athrawiaeth ei hun yn aíiaehus, ac oddiar y cyfryw dyb, ymwrthod â hi megys un o erthyglau ein flydd, ac o destynau priod i'r areithfa, ni a ymddangosem yn llwyr anadnabyddus o'r natur ddynol, yr hon sydd wedi halogi, nid un yn unig, ond yn agos pob un o athrawiaethau yr efengyl: ac y'mhellach, ni a amddifadem y Cristion o un o'r diddanion penaf, ac o'r annog- aethau mwyaf cy ffrous ag y rhyngodd bodd i Dduweu gosod ger ein bron fel cread- uriaid rhesymol ac anfarwol. Mewn am- gylchiad o'r fath, dyledswydd y pregethwr yw, ymorol i dystiolaeth Duw yn unig, ac i dynu o ífynon bur ei ddatguddiedig air " ymadrodd iachus, yr hwn ni aller beio arno." Nid yw cyfeiliornad ar y naill ochr yn cyfiawnhau cyfeiliornad ar y lla.ll. Ein dyledswydd fel esponwyr yr ysgryth- yr, yw rhodio yn ddiwyro ar hyd uniawn lwybr gair Duw, heb droi ar y llaw dde- heu nac ar yr aswy; ac ymwrthod â threfn- iadau deongliad, a dychymmygion Philo- sophyddiaeth, tr.wy y rhai y ceisir " ein llygru oddiwrth y symlrwydd sydd yn Nghrist." Os cafodd un rhan o'r dyst- iolaeth ddwyfol ei thywyllu, ni a ddylem ei goleuo; os ei gwrthdroi, ei deongli yn iawn: ond rheidiol yw i ni er dim gadw y dystiolaeth ddwyfol fel y derbyniasom MAWRTH, 1835. hi, yn gyfan ac yn ddihalog: a thra yi ydym yn gwrthsefyll esponiadau anghy- wir, dylem ofalu rhag i ni ddilëu cyd- weddiad a chyssondeb digyffelyb y gwir- ionedd ag yr ydym am ei amddiffyn. Yn y tymher hwn, mi a ymdrechaf i egluro ac amddiffyn yr athrawiaeth ys- grythyrol y gwobrwyir gweithredoedd da; ac wedi hyny, i wasgu oddiwrth yr athraw- iaeth hon y cyngor a roddir yn y testun. I. Er cyflawni y cyntaf o'r dibenion hyn, rheidiol yw, yn y lle blaenaf, ymofyn beth a ddylein ddeall, yn ei ystyr efengyl- aidd, wrth yr ymadrodd, g iveithredoetld da. Gan fod camsyniadau lawer wedi tarddu oddiwrth anwybodaeth ar y pwngc hwn, y mae yn eglur ei fod o'r pwys mwyaf i ni gael golygiadau cy wir o hono. Pe byddai pawb yn meddu hyn, ni fyddai i hunan- gyfiawnder y galon lechu mor fynych ag y gwna yn y meddwl anysgrythyrol, y gellir haeddu 'r nef trwy ein gweithredoedd am- mberffaith; ac ar yr ochr arall, ni chyfrifid yr athrawiaeth o blaid yr hon yr wyf yn sefyll, megys ag y gwneir gan ddyuion da a duwiol, ond gweiniaid mewn barn, yn anghysson â'r gwirionedd, mai " trwy ras yr ydym yn gadwedig," yr hyn yw prif ogoniant yr efengyl. Wrth yr ymadrodd " gweithredoedd da," nid ydym i ddeall y cyfryw weithred- oedd a'r a ddichon dyn eu gwneuthur yn ei gyflwr natwiol. Canys i'r rhai hyn, er hardded yr ymddangosont oddi allan, y mae nodweddiad arall, ac un o ryw llwyr ' wahanol, yn perthyn. Y mae yn nodad- wy nad yw yr Apostol Paul, pan yn sôn am yr athrawiaeth bwysig o gyfiawnhad trwy ffydd, yn arfer yr ymadrodd " gweith- redoedd da," i arwyddocàu y gweithred- oedd hyny ag y mae yn gwrthod iddynt y. gallu o gyfiawnhau, eithr ei fod yn defn- yddio geirian ereill, sef " gweithr edoedd