Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y GWYLIEDYDD. Llyfr XII.] CHWEFROR, 1835. [Rhif. 142. Ibtewtb A DRADDODWYD YN EGLWYS D----, AR DDYDD NADOLIG, RHAGFYR 95, 1834. " Crist sydd bob peth, ac ym mhob peth."—Col. 3. 11. Y mae rhagoroldeb y grefydd Gristion- ogol v u blaenori ar y cwbl o anferthwch a gwrthuni afresymol Paganiaeth, creulon- deb gwallgofus Pabyddiaeth, a ffalsedd neu dwyll Philosophyddiaeth ddigred a gau; ac i'w ganfod yn ddigon amlwg oddiwrth ardderchawgrwydd ei Hawdwr, gorwychdra ei hathrawiaethau, a'r parhad diddarfod o'i dylanwadau. Tra y mae dychymmygion cyfeiliornus ein cyndeid- iau wedi diflanu, a'u temlau a gyssegrwyd i'w heiiunod yn orchuddiedig am oesoedd yn y llwch, darfu i grefydd yr Iesu, yr hon ar y cyntaf a ddisgleiriodd yn egwan, megys seren, yn ngardd Eden; ond, fel yr agoshaodd yr amser o ymddangosiad y Messîah, a gynnyddodd mewn harddwch, hyd onid o'r diwedd, y'nghnawdoliaeth Crist, yr ymdorodd allan ar y byd, fei " Haul Cyfiawnder." Darfu i'r grefydd hon aros yr un fath yn ei hegwyddor, gan ymdaenu dros deyrnasoedd y byd; gan dreiddio trwy dywyllwch duaf Pagan- iaeth, yn cyhoeddi iechydwriaeth trwy waed yr Oen i eneidiau dynolryw, y rhai a gladdwyd ym meddrod dwfn anwiredd a phechod; a thrwy ei heífeithiau grymus, yn tystio mai hi y w yr achos a'r brif ifynon o bob rhagoriant moesol a daionus. Y tnae Cristionogrwydd, fel y Uoer yn ty- wynu ar ddyfroedd y dyfn-fôr yn ddi- newidiawl tan eu cynhyrfiad, neu yn ddi- ddiffodd trwy eu chwydd, yn myned ym mlaen, wedi ei ddilladu âg addurn dis- glaer doethineb y Jehofah, ac a dreiddia, y'nghadernid y gwirionedd dwyfol, trwy bob cwmwl dudew o gyfeiliornad. Y gwahaniaeth ag sydd i'w ganfod rhwng bri a boneddigeiddrwydd y palas, a thru- eni y bwthyngwael; rhwng golud rhod- CHWEFROR, 1835. resawl, ac anrhydedd swyddogion, a thlodi ac iselder y deiliaid; rhwng ar- dderchog ledaeniad dysgeidiaeth, a diryw- iaeth ac iselradd anwybodaeth;—y rhai hyn oll a symudir ymaith trwy grefydd yr Iesu. Un o'r nodweddiadau mwyaf am- lwg yw y cariad a'r haelioni a estynir gandditu ag at y cwbl oll o'r teulu dynol. Nid yw yn gwrthod neb rhy w ddyn am ei fod yn Roegwr, nac yn derbyn neb chwaith am ei fod yn luddew. Nid yw yn rhoddi dim oblegid enwaediad, nac yn attal dim o achos dienwaediad. Y mae hi yn hy- weddu ac yu gwareiddio Barbariaid ang- helfydd a diddysg—yn gorchymyn i'r caeth beidio a digaloni o herwydd ei gad- wynau, na'r gwr rhydd ymddyrchafu o blaid ei ryddid; ond y mae yn erchi i bawb orfoleddu megys y maent yn dal perthynas â'r lachawdwr, yr hwn sydd gwbl berffeithrwydd, ac y'mhobcredadyn. I. " Crist sydd bob peth, ac yni mhob peth," niewn perthynas i gysgodau, pro- phwydoliaetliau, ac addewidion yr ysgryth- yrau. 1. Nis gallwn ystyried y cysgodau, heb sylwi ar fwriadau eu Hawdwr: canys, i feddwl y gwnai Duw sefydlu aberthau heb gyssylltiad â rhyw ddiben neillduol— neu fod y gwrthddrych o'u gosodiad yn dal perthynas â'r amser presennol, heb gyfeirio yn y radd leiaf at yr un dyfodol— hyny a fyddai yn afresymol, ac yn peri i'r haeriad o'r fath weithred ymddangos yu hollol ddigred a gwrthwynebol. Pe cyf- yngid bwriad neu ddiben aberthau i'r amser presennol, yna angenrheidiol fyddai y parhad o honynl; ac os oeddynt angen- rheidiol, paham eu dilëir ? Eithr gan nad aliai gwaed anifeiliaid ostegu digllonedd