Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y GWYLIEDYDD. Llyfr XI.] TACHWEDD, 1«34. [Éhif. J40. /?> COFIANT Y DIWEDDAR BARCHEDIG W, GOODE, M. A. PERIGLOR ST. ANDREW A ST. ANN, LLÜNDAIN. Ganwyd Mr. Goode yn Buckingham, yn y flwyddyn 1762. Ei dad oedd aelod o Eglwys Loegr, a dygodd ef i fynu yn ei chymmundeb hi. Cafodd ei dywys yn raddol i adnabyddiaeth o'r gwirionedd megys y mae yn yr Iesu ym moreu ei oes. Gwnaethpwyd yr argraflìadau cyntaf o bwys arei feddwl pan oedd yn yr ysgol; a pharhaodd y rhai hyn nes y dygwyd ef i edifeirwch dwys am bechod, ffydd fy wiol yn nghyfiawnder Iesu Grist, ac ufudddod sanctaidd a difrifol i'w orchymynion ef, trwy ras yr Yspryd Glân. Gweinidog- aeth Offeiriad duwiol, sef y diweddar Barch. Mr. Simpson, a fu yn dra buddiol iddo y pryd hyn. Canlynodd fasnach ei dad yn Bucldngham o 14 i 15 oed: ond ei galon hyd yn nod yr amser yma a duedd- wyd yn gadarn at y swydd o Weinidog yr efengyl; a byddai arferol o gyfodi yn foreu iawn i astudio yr iaith Hebraeg. Gan fod ei daer ddymuniad i gyssegru ei hun i wasanaeth yr eglwys yn parhau yn ddiysgog,dodwydef panoedd yn 16egoed dan ofal y diweddar Barch. J. Bull, i'w barotôi i'r Brif-ysgol. Danfonwyd ef i Rydychain ynghylch y flwyddyn 1781, ac urddwyd ef i Guradaeth yn Swydd Buck- ingham yn 1784. Yn fuan ar ol ei urdd- iad, clywodd am Guradaeth y diweddar Barch, W. Romaine, a chymmerodd arno ddyledswyddau y plwyf hwnw, pa rai a gyflawnodd efe dros yspaid oddeutu deng mlynedd ar hugain. Arosodd yn Gurad i'r enwog Romaine hyd farwolaeth y gwr duwiol hwnw, yr hyn a ddigwyddodd wedi iddo fod yno yn Gurad oddeutu deng mlvnedd, yr hyn a fu yn achlysuroap- pwyntiad Mr. Goode i Berigloriaeth y ddau blwyf, sef St. Andrew a St. Ann. Bu yn dra diwyd a llafurus yn y cyflawn- TACHWEDD, 1834. iad o ddyledswyddau pwysfawr ei swydd oruchel, i ba un y galwyd ef yn y modd hyn, dros ugaiu mlynedd. Heblaw amryw ddyledswyddau neilldnol ei weinidogaeth trwy 'r plwyf, pregethai yn gysson dair gwaith bob wythnos, sef, ar foreu Sul, boreu dydd Mawrth, acarbrydnawn Sul, yn yr Eglwys hon. Yn y maes helaeth hwn o lafur dibaid bu yn ymdreulio, gan estyn ei Iaw haelionus o gynnorthwy i bol» Cymdeithas Grefyddol yn y brif ddinas, fel y byddai cyfleusdra yn ymgynnyg. Bu yn gyfaiil flyddlon i'r Gymdeithas er di- wallu Offeiriaid duwiol tlodion, ac yn Ys- grifenydd iddi am un mlynedd ar hugain. Bu yn dra ymdrechgar o blaid Cymdeithas Genhadol yr Eglwys; a sefydlwyd hi i raddau mawr trwy ei lafur ef; ac annog- odd ei chyfeillion i fyned y'mlaen yn wyneb pob digalondid pan oedd yn ei mebyd, mewn ymddibyniad ar addewid Duw. Byddai yn cynnorthwyo y Gym- dcithas hon y'mhob ystyr, a phregethwyd un ar bymtheg Cylchwyl Blynyddol yn ei Eglwys. Yn Hydref y flwyddyn 1814 y tarawodd yr afiechyd ef, yr hwn wedi hyny a derfynodd ei fywyd, wrth fyned gyd â'r Ysgrifenydd yn achos y Gym- deithas i Ipswich. Yr oedd ei amynedd a'i hunanymroddiad dros y dennaw mis y bu efe yn glaf yn dra hynod. Ei brif ofal oedd am lwyddiant ei bobl anwyl, a'i weddi benaf oedd ar fod y cystudd er lles ysprydol iddo ef. Yr oedd y ffrwyth yn amlwg i bawb o'i amgylch. Treuliodd amser maith mewn gweddi ac ymarferiad- au duwiol. Yr oedd ei dymher yn dyfod yn fwy tyner, a'i gariad at Iesu Grist yn fwy gwresog. Ei zel hefyd i gynhyrfu meddyliau ei bobl, trwy ddwyn ar gôf iddynt, oedd ainlwg i bawb, gan ystyried S S