Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y GWYLIEDYDD. Llyfr XI.] MAI, 1834. [Rhif. 134. (VI COFIANT BYR AM Y PARCH. REES PRICHARD, GYNT FICER LLANYMDDYFRI, SIR GAERFYRDDIN. Rees Prichard, fel y tybir, a anwyd yn Llanymddyfri, yn Sir Gaerfyrddin, ac Hddygwyd i fynu yn y wlad hòno nes ei ddanfon i Goleg yr Tesu, Rhydychen, yu y flwyddyn 1597, ynghylch deunaw oed. Efe a urddwyd yn offeiriad yn Wittam, yn Essex, gan John Suffragan, Esgob Ro- thester, ddydd Llun, y 25ain o Ebrill, yn y flwyddyn 1602; ac efe a raddwyd yn Älehefin ar ol hyny yn Wyryf y Celfydd- Jdau; ac yn mis Awst, yr un flwyddyn, «fe a gafodd Ficeriaeth Llanymddyfri gan Anthony, Arglwydd Esgob Tŷ Ddewi. Ar y 19eg o fis Tachwedd, 1612, efe a or- «leiniwyd yn Berson Llanedi, yn Esgob- fteth Dewi, yr hon a gyflwynwyd iddo gan y brenin lago I. y lle a feddiannodd, inghyd â'r rhai rhagddywededig, trwy ganiatàd yr Archcsgob; ac ar yr 28ain o tìs Hydref, 1613, efe a sicrhawyd trwy Hwdurdod â sel fawr y brenin. Ar y 29ain o'r un mis efe a gyfaddaswyd i'r §alwedigaethau hyny trwy ei wneuthur ìn Gaplan i Robert, Iarll Essex, yn y flwyddyn 1614. Ar y 17eg o fis Mai efe a *»naed yn Beriglor o'r Eglwys Gadeiriol ÍU Aberhondda gan y rhagddywedig An- lhony, Esgob Tý Ddewi, tanenw Athraw y Celfyddydau; efe agymmellwyd i gym- ineryd arno y graddau hyny gan ei Esgob, y Dr. Laud. Efe a wnaed hefyd yn Gang- hellwr Tŷ Ddewi, gyda pha un y mae î^erigloriaeth Llawhaden yn digwydd, ar y 14eg o fis Medi, 1626, pan ymadawodd Richard Baily, Gwyryf Duwinyddiaelh o Goleg St. Ioan yn Rhydychen, â'r Ue hwnw. Cyhoeddodd lyfr o'i waith ei hun, a elwir Canwyll y Cymry, yr hwn a argraff. Wyd yn dair rhan. Hefyd, efe a gyfieith- odd amryw lyfrau i'r Gymraeg, ac a ys- grifenodd ryw beth ar y namyn un deu.. MAI, 1834. gain Erthyglau Eglwys Loegr. Pa un a argraffwyd hwynt ai peidio, nis gwyddys, eithr gwelwyd rhai o'r ysgrifeniadau. Yn' ei fywyd efe a roddodd werth 20 l'unt yn y flwyddyn o dir i sefydhi ysgol rad yn Llanymddyfri, ynghyd á thŷ i'w chadw hi; ac wedi bod pedwar o athrawon ol- ynol yn feddiannol ar y tý a'r ysgol, a'r arian yn cael eu talu iddynt, darfu í Thomas, mab Roger Manwaring, gynt Esgob Tý Ddewi, briodi Elizabetli, unig ferch ac etifeddes Samuel, yr hwn oedd fab Rees Prichard. Hwnw a attaliodcl, fel y gwnaed yn hysbys trwy lythyrau oddi yno, ac a gymmcrodd feddiant o'r tiroedd yn perthyn i'r ysgol rad, gan gym- meryd arno dalu i'r athraw ysgol, yn ar- ian, dros flwyddyn neu ddwy; eithr cyn pen hir afon Tywi a dorodd i'r tŷ, ac a'i dygodd ymaith, a'r tiroedd ag oedd yn perthyn i'r lle y pryd hyny oedd yn medd • iant Roger Manwaring, mab ac etifedd y rhagddywededig Thomas Manwaring, yn y flwyddyn 16f>2; felly braidd cof clywed sôn am yr ysgol. Dywedir ei fod yn ei ieuengctid yn chwannog iawn i'r ddiod, ond iddo gael ei argyhoeddi mewn modd tra rhyfeddol gan fwch gafr, yr hwn a fyddai arferol o'i ddilyn i'r dafarn; eithr ar ryw amser efe a roddodd ddiod i'r bwch, nes ei feddwi, yr hyn ni ellid mewn un modd ei hudo i wneud drachefn. Hyn a barodd i Mr, Prichard fíieiddio meddwdod, ac ymroddi i dduwiol ymarweddiad. Efe a fu byw 65 o flynyddoedd, ac a fu farw yn Llan- ymddyfri yn mis Tachwedd yn y flwydd- yn 1044; a chladdwyd ef, fel y tybir, yn yr Eglwys hòno. [ Y Cofiant blaenorol a gymmerwyd allan o lyfr a elwid Atiien/e Oxoniensis, a ar- graffwyd yn Rhydychain, yn yfl. 1091.]