Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y GWYLIEDYDD. Llyfr XI.] EBRILL, 1834. [Rhif. 132. NATUR AC ANGENRHEIDRWYDD GWIR BAROTOAD ERBYN á'NGEü. PREGETH A BRADDODWTD YN EGLWTS ST. MAIR, CAERLLEON, PRYDNAWN DDYDD MERCHER, MEDI 18, 1833, MEWN PERTHYNAS I DDTFODIAD T CUOLF.RA MORllUS I BLITII T TRIGOLION; AC TN FWTAF NEILLDUOL O BARTH I FARWOLAETH MR. BROOR. GAN T PARCH. THOMAS HARRISON, M. A. DARllTHWR TR EGLWTS UCHOD. Mat. xxiv. 44. ■■ Am hyny byddwch chwithau barod; canys yn yr awr ni ihjbioch y d-aw MaU y dyn. Trwy ystod byr fy ngweinidogaeth, nis gallaf goio amgylchiad a ddygodd eiriau fy nhestun yn fwy grymus i'ra meddwl öa'r ymweliad byr a gefais Ddydd Iau diweddaf, gyd âg un, a barnu oddiwrth ei ddyfalwch rheolaidd yn moddion gras, a fuasai yma beno, pe buasai ar y ddaear; t>nd gobeithiaf ei fod mewn gwasanaeth perffeithiach, sef gyd à'r dyrfa fry yn " canu cân Moses a chân yr Oen," yr hyn a wna i fynu yr anthem dragywyddol, gan y bydd hi yn hyfrydwch diball holl war- edigion yr Arglwydd. Trwy ddamwain y cly wais iddo gael ei daraw â'r clefyd tra- llodawl hwn: brysiais i ymweled âg ef, i weinyddu yr holl ddiddanwch a allwn fel Gweinidog yr efengyl iddo, yn y fath am- ser arswydlawn ac enbydus. AmJ yr hoff- ais gyssondeb ei ddy fodiad i'r Gwasanaeth hwyrol a gynnelir yn yr Eglwys hon ar y Sabbothau. Mynych y sylwais, gyd â'r pleser a'r hyfrydwch mwyaf, ar ei ym- ddygiad difrifol, a theilwng o'i ddilyn, yn y tŷ gweddi hwn; ac yn awyddus i gael gwybodaeth a ydoedd y moddion hyny wedi bod yn fendithiol i droi ei enaid, ymddiddenais âg ef cyhyd ag y gallasai ei gyfansoddiad adfeiliedig ac egwan gan- iatâu mewn perthynas i'r amgylchiad di- frifol ydoedd yn ei aros. A byth nid ang- holìaf mor dawel a gostyngedig, gyda di- ysgogrwydd oslef llais yr atebodd y cwest- iwn dwys-ganlyniadol a ofynais iddo ychydig iawn o amâer cyn iddo gael ei EBRILL, l«34. amddifadu o'i barabl, seî, Pafodd yr oedd yn teimlo mewn perthynas i dragywyddol- deb ? " Syr," eb efe, " yr wyf wedi hollol ymroddi iewyllys Duw: yr wyf yn teimlo fy mod yn ei ddwylaw ef; a'm hunig obaith am iachawdwriaeth sydd yneifawr drugaredd ef, trwy Iesu Grist ein Har- glwydd." Y mae wcdi bod yn ddywediad cyffredin, nad yw y clefyd hwn yn taraw neb ond y rhai y mae ansawdd eu cyrph wedi eu niweidio gan oedran ac anghym- medroldeb: ond onid yw marwolaeth Mr. Brooke yn wrthbrawf nodedig i hyn? ac onid yw yn proíì nad oes dim a wrthsefyll ei ffyrnigrwydd, nac a dry draw ei ymos. odiadau, er fod pobl o duedd afradlon ac ofer yn sicr yn fwy agored iddo nag ereill; etto nid yw y sobrwydd mwyaf, na'r cyf- ansoddiad cryfaf, na'r iechyd goreu, yn unrhyw sicrwydd yn erbyn ymgyrch y ff'rewyll dychrynllyd hwn, sydd agos mor anwahanedig yn etholiad ei wrthddrychau ag ydyw yn farwol yn ei ganlyniadau. Gan ein bod wrth hyny yn gweled, trwy broíiad trymllyd, nad yw y Cholera yn dderbyniwr wyneb—nad yw yn arbed na hen nac ieuangc, y cyfoethog na'r tlawd, y bugail na'r praidd—gofynaf, Pa beth yw y wers bwysig y mae yn ei ddysgu? pa beth yw y gwirionedd sobr sydd yn swnio yn ein clustiau? Onid rhybydd difrifol y Gwaredwr yn y testun—" lìyddwch chwi- thau barod; canys yn yr awr ni thybioch y daw Mab y dyn?" Bydded i'r Yspryd Glân weled bod yn dda rasol gydfyned â ni â'i fendith tra y byddwyf yn eich cyfarch öddiwrth y rhan