Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y G Llyfr XI.] MAWRTH, 1B34. [Rhif. 131. BYW-GRAFFIAD YR ESGOB JEREMY TAYLOR. Ya EsnoB Jf.rf.my Taylor, un o add- urniadau disgleiriaf ein Heglwys, ydoetld unoddisgynyddion y Dr, RowlandTaylor, yrhwn a losgwyd wrth yr ystangc yn Had- leigh, yn y fl. 1535, am ei ymlyniad wrth egwyddorion y Diwygiad. G'ellirystyried tlodi (yr hwn nad yw un amser yn warth, ond pan y byddo yn ffrwyth annoethineb, drygioni, a gwastraíF) yn rhagoriaeth an- rhydeddus yn y teulu hwn;' gan mai yr un creulonwyr ag a draddodasant gyrph eu hynafiaid i'r fflamau, a gymmerasant liefyd eu hetifeddiaeth yn ddirwy oddi arnynt: ac nid oedd tad gwrthddrych y Cofiant hwn o amgen sefyllfa nag eillydd yn nhref Caergrawnt Ei drydydd mab ydoedd Jeremy, yr hwn a anwyd yn y fl. 1613. Cafodd ei ddysgeidiaeth yn Ysgol Rad Perse, yn Nghaergra-wnt, o dair blwydd oed hyd yn dair-ar-ddeg, pan y cafodd ei drlerbyn yn sizar, neu ysgolhaig tlawd, i Ysgoldy Caius : a chymmaint a ennillodd drwy y manteision i astudiaw a ganiatâi y lle, fel ag y barnwyd ef yn addas (fel yr Arcliesgob Usher) i dderbyn ei gwbl iirddau, panoedd yn yr oedran ieuengaidd o 20 mlwydd. Yn fuan ar ol ei ordeiniad, galwyd ar y Duwinydd ieuangc hwn i weinidogaethu fel Darlithydd yn Eglwys St. Paul; a'r ddysgeidiaeth a'r hyawdledd a ddangos- odd yno a dynodd sylw yr Archesgob Laud, yr hwn, yn gyntaf, a'i cyflwynodd i Frodoriaeth (Fellowthip) Ysgoldy All Souis, Rhydychain; ac wedi hyny i Ber- i^loriaeth Uppingham, yn Swydd Rut- land; a than yr un ragoriaeth y pennod- wyd ef i fod yn Gapelwr i Siarl I. Nid yn hir, pa fodd bynag, y caniata- wyd iddo fwynhau ei ddyrchafiadau mewn hedd. Y rhyfel cartrefol rhwng y Brenin a'r Senedd ydoedd ar ddechreu, a Taylor a ymly nai yn zelog wrth yr achos breninol. Yn y II. 1G42, efe a unodd à'r brenin yn MAWRTH, 1834. Rh^dychain, a difeddiannwyd ef o'i Ber* igloriaeth gan y Presbyteriaid. Ond o'r amscr hwnw hyd y flwyddyn 1G58 (er y gellid yn hawdd olrhain rhai pethau di- bwys yn ei hanes) nid yw y manwl-ad- roddiad o hono ond i raddau ammherlfaith ar gôf a cliadw. Am amser maith yr yd- oedd yn ddiau gyd â'r Brenin, ac yn un o'i bregcthwyr a'i dduwinyddion rhagoraf. Ac yn niwcdd taith adfydus ei feistr anlfodus gwyddys i Taylor gael cyfar- fod wyneb yn wyneb âg ef; a derbyn o'i ddwylaw, fel arwydd o'i serch ato, a'i barch iddo, ei oriawr, ac ychydig berlau a rubies ag oedd yn addurno yr amglawr (case) y cedwai ei Fibl ynddo, yr hwn oedd wedi ei wneud o fath o bren du caled o'r India, a elwir Ebony. Y'nghorph yr amser a nodwyd uchod, deallir hefyd i Taylor fod yn garcharor dair gwaith—un- waith pan y caethiwyd ef yn ngorchfygiad plaid y Brenin, gan y Milwriad Gerard, o flaen Castell Aberteifì, ar y 4ydd dydd o Chwefror, 1644:—yr ail wailh, yn y flwyddyn 1654, pan y carcharwyd ef yn Nghastell Chepstow, dan yr ammheuaeth o'i fod â rhan yn ngwrthryfeliad gwyr y Brenin yn Salisbury:—a'r drydedd waith, yn y flwyddyn 1658, traddodwyd ef i'r Tŵr, o herwydd i gyhoeddydd ei lyfrau roddi darlun o Grist ar ddull un yn gweddio o flaen llyfr o'i waith, a elwid " Casgliad o Swyddi:" y fath arddangos* iad a hyn a waherddid ac a gospid gan y crefyddwyr penboeth hyny, y rhai, wedi swnio mor groch ac uchel am ryddid cyd- wybod iddynt eu hunain, oeddynt barod, pan y cawsant y llaw uchaf, i gospi ereill am yrymneillduaethlleiafoddiwrthbrawf- fan y gwirionedd, a farnent ydoedd yn ddigoll ganddynt hwy. Ond er y rhwysfrau hyn, a rhai achlys- urol ereill, ymddengys i Taylor dreulio nn mlynedd ar bymtheg o'i oes, sef o 1C42 i