Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y GWYLIEDYDD. Llyfr XI.] CHWEFROR, 1834. [Rhif. 130. SYLWEDD PREGETH AR Heb. xi. 22. "Tiwy ffydd, Joseph, wrtb farw, a goffíìodd ani ymadawiad plant Israel; ac a roddodd orcliymyu am ei esgyrn." Y mae hanes Joseph, heblaw ei fod yn dra difyrus ac addysgiadol, yn un o'r prof- ion cadarnaf o ragluniacth Duw yn gor- Uwch-lywodraethu helyntion y byd er daioni i'w bobl; " fel y dywedo dyn, Di- üu fod ffrwyth i'r cyfiawn; diau fod Duw a farna ar y ddaear." Ps. 58. 11. I. Ilanes Joseph. Nis gellir ei adrodd tnor effeithiol ag y mae wedi ei adrodd yn Hyfr cyntaf Moses; ac ni wnawn yn y fan yma ond adgoffa y prif ranau o hono. 1. Ei ieuengctid. (1.) Mab ieuengaf ond un ydoedd i Ja- cob, a anwyd iddo o Rahel, yn Mesopo- tamia, ychydig cyn ei ymadawiad o'r wlad hòno,O. B. 2259. (2.) Un o'r pethau cyntaf a ddarllen- wn am Joseph ydyw, iddo pan oedd yn 17 flwydd ocd gael ei gasâu gan ei frodyr, ac na fedrent ymddiddan âg ef yn hedd- ychol. Mynegir tri achos o'u hymddygiad angharedig. Yn un peth, Joseph a hys- bysodd i'w dad ryw gam-ymddygiadau a welsai ar ei frodyr. Peth arall, yr oedd ei dad yn ci hoffi ef yn fwy na'i holl feib- ion, ac a wnaeth iddo siaced fraith o'r fath a wisgai plant breninoedd. Heblaw hyny, Joseph a freuddwydiodd y byddai iddo gael dyrchafiad mawr yn y byd goruwch ei r'ieni a'i frodyr. (3.) Pan oedd brodyr Joseph yn bugeilio yn Sichero, ei dad a'i hanfonodd ef ryw ddiwrnod i ymweled â hwynt. A phan welsant ef yn dyfod, cyd-fwriadasant i'w erbyn, a bwriasant ef i ryw bydew, gan feddwl am ei ladd; ond ei werthu a wnaethant am ugain darn o arian i fintai o Ismaeliaid oedd yn myned i waered i'r Aipht. Cymmcrasant ei siaced fraith, a throchasant hi mewn gwaed mỳn, a dyg- asant hi at eu tad, yr hwn a ddy wedodd, " Siaced fy mab yw hi; bwystül drwg a'i CHWEFROR, 1834. bwytàodd ef." Ac efe a alarodd am Jo- seph ddyddiau lawer. 2. P2i symudiad i'r Aipht. (1.) Yr Ismaeliaid hyny a werthasant Joseph yn gaethwas i Putiphar, tywysog Pharaoh, brenin yr Aipht. Pan welodd meistr Joseph fod bendith yr Arglwydd gyd âg ef, efe a'i gwnaeth ef yn olygwr ar ei dŷ, ac a ymddiriedodd iddo ei holl or- chwylion: a " bu i'r Arglwydd fendithio tý yr Aiphtiad er mwyn Joseph." (2.) Gan fod Joseph yn dêg o bryd ac lân yr olwg, fe ddarfu i wraig ei feistr roddi ei serch arno, a'i dcratio i odinebn gyda hi; eithr efe a wrthododd, gan barchu ei feistr, ac ofni ei Dduw. Ond ryw ddi- wrnod (ar ol llawer o ymgais) hi a'i dal- ioild ef erbyn ei wisg, gan ddywedyd yn ddigy wilydd, " Gorwedd gyda mi." Yn- tau a adawodd ei wisg yn ei llaw hi, ac a ffôdd allan. Hithau ar hyny a waeddodd dros y tý, ac a gyhuddodd Joscph ar gam wrth ei gwr; yr hwn, gan ^oelio ei wraig, a lidiodd, ac a fwriodd Joeeph i'r carchar- dy, Ue yr oedd carcharonon y brenin yn rhwym : ac yno " cystuddiasant ei draed ef mewn gefyn; ei enaid a aeth mewn heiyrn." Ps. 105. 18. (3.) " Ond yr oedd yr Arglwydd gyda Joseph," îe, yn y carchar, " ac a roddes ffafr iddo y'ngolwg penaeth y carchardy;" yr hwn, wrth weled ei dduwiol ymarwedd- iad, a ymddiriedodd ofal y carcharorion yn gwbl i'w law ef. (4.) A darfu, tra yr oedd Joseph yn y carchar, i ben-trulliad a phen-pobydd Pharaoh gael eu rhoddi mewn dalfa yn yr un lle,amdroseddu ynerbyneuharglwydd frenin. A breuddwydiodd y ddau ryw noson freuddwydion hynod, y rhai a dde- onglodd Joseph iddynt, gan arwyddocíìu y rhoddid y naill i farwolaeth, ac yr adfcrid