Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y GWYLIEDYDD. Llyfr XI.] IONAWll, 1834. [Rhif. 129. BYWGRAFFIAD SYR HUW MILTWN, BARWNIAD. Syr Huw MiLTWN,neuMiDDi.ETON,yd- oedd y chweched inab i Richard Miltwn, yr hwn oedd Geidwad Castell Dinbych yn nheyrnasiad Edward VI. Mair, ac Elizabeth. Bu i'w dad un-ar-bymtheg o blant; sef naw o feibion a saith o ferched: ac o'r un-ar-byratheg bu i dri ragori yn eu hoes, er lles a bendith i'w gwlad—sef Wiliam, y trydydd mab, sef Gwilym Can- oldref, Tomas, y pedwerydd, yr hwn a bryn- odd Gastell y Waun, a Huw, y chweched, testyn y Bywgraffiad presennol. Anfonwyd Huw i Lundain, fel ei frawd Tomas, pan yn ieuangc, lle y gweinydd- ydd yr alwcdigaeth o Eurych {Gold- smith). Ond yraddengys fod ganddo ryw feddyliau heblaw gwneuthur a gwerlhu Uestri aur, &c. oblegid dywed yn ei lythyr at Sy r John Wyn o Wydir, iddo geisio cael glo o fewn milltir i Ddinbych, er lles i'w hen gymmydogion, ond ni choronwyd ei ymdrechiadau â llwyddiant. Ei ymgais nesaf ydoedd cael arian a phlwm yn Nghwm Symlog, a'r Darren Fawr, ger- llaw Aberystwyth; a bu mor lwyddian- nus, fel y dywedir ei fod yn ennill dwy fil o bunnau yn y mis oddiwrth ei fvvn- gloddiau yno. Ond y prif orchwyl trwy ba un yrennillodd Syr Huw ei glod, ac y treuliodd ei arian, oedd ei ddyfais a'i ym- drechiadau i ddiwallu dinas Llundain â dwfr. Am ddau can mlynedd ar ol dyfodiad Wiliam y Concwerwr, diwellid y ddinasâ <lwfr gan yr afonydd gerllaw iddi, a'r ffrydiau a redent trwy rai o'r heolydd. Ond oddeutu diwedd y drydcdd ganrif ar ddegjgymmaintoedd y trigolion wedi gyn- uyddu, fel ag yr oedd yr afon Wells a'r ffrydiáu yn ddifudd, a bu yn angenrheid- iol dyfeisio rhyw ffordd newydd i ddi- •\vallu angenion y preswylwyr. Oddeutu y flwyddyn 1285, gwnaed cist fawr o blwm yn y lle a elwid gynt West Cheap, ond yn IONAWR, ÌÔ'òi. awr Cheapside, i ba un y cludid y dwfr o Paddington. Rhwng y blynyddau 1401 a 1610 adeiladwyd llawer o'r rhai hyn mewn gwahanol fanau yn y ddinas, ond nid oedd y cwbl yn ddigonol i angenrheidiau y din- asyddion. Gwnaed Gweithred Seneddol (Act of Parliament) yn amser y Freninea Elizabeth, yn rhoi cenad, amddengmlyn* cdd, i ddinasyddion Llundain dori afon o unrhyw ran oSwyddi Middlesex neu Hert- ford; ond pa fodd bynag ni chymmerodd neb y fantais o'r fraint hon. Yn nechreuad teyrnasiad Iago I. cafwyd Gweithred Seneddol arall er dwyn i " ran ogleddol Llundain ffrwd redegog o ddwfr croyw;" ac ar ol hon gwnaed un arall mwy eglur; ond cymmaint oedd yr an- hawsderau fel y gwrthododd y dinasydd- ion fyned i'r draul o'i gwneuthur. Gan nad oedd un tebygoliaeth y cyflawnid peth mor ddymunol, daeth Huw Miltwn ym mlaen, a chynnygiodd i Lys y Cynghor Cyffredin (Court of Comtnon Council) i ddechreu y gwaitli, ond iddynt dròsglwyddo iddo ef yr awdurdod a roddwyd iddynt trwy y Gweithredoedd Seneddol. Cytunasant â'i gynnygiad: ac ar y dydd cyntaf o Ebrill dechreuodd y gwaith ar ei draul ei hun! Y mae flÿnonau Siadwel ac Amwel, o ba rai y dechreuodd dori yr afon, oddeutu dwy fiiltir ar hugain o Lundain; ond er mwyn gochelyd bryniau a dyffrynoedd gorfu iddynt fyned â'r afon agos i ddeu- gain milltir o ffordd. Buan y teimlodd ac y gwelodd y Gwlad- garydd enwog hwn yr anhawsdra mwyaf i ddwyu ei faich, a'r draul fawr oedd yn ofynol; ac erfyniodd ar i'r dinasyddion ohirio amser cyflawniad ei waith. Ar ol cael pedair blynedd yn ychwaneg o amser ail-ddechreuodd ar ei waith: ac ar ol boddloni perchenogion y tiroedd yr oedd yr afon yn rhedeg trwyddynt, a dyfod â'r afon gerllaw Enfield, cafodd ei fod wedi