Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y GWYLIEDYDD. Llÿfr X.] RHAGFYR, 1833. [Rhip. 120. PREGETH A DRADDODWYD GAN Y PARCH. D. J. AR EI YMADAWIAD O BLWYF LL-----L, HYDREF 16, 1829. Act. 40. 32. " Ac yr awríion, frodyr, yr ydwyf yn cich gor- chyniyn i Dduw." Y Geirîaü hyn ydynt ran o bregeth ddiweddaf St. Paul i eglwys Ephesus, lle y bu efe yn weinidog sefydlog dros dair blynedd. Amgylchiad tra chyífröus yw, fod bugail a'i braidd, gweinidog a'i gyn- nulleidfa, yn ymadael â'u gilydd, a hyny, o bossibl, am byth. Fel y niae gweinidog duwiol a flyddlon yn caruei gynnulleidfa, ac yn arfer pob moddion priodol i achub eu heneidiau; felly y mae ei gynnulleidfa yn ei garu yntau. HofF waith y naill yw dangos i bechadur ei gyflwr colledig, fel creadur euog ac aflan, fei gelyn Duw ac etifedd Gehenna; a chyhoeddi hefyd Iesu Grist,tragywyddol Fab l>uw, yn Geidwad digonol i achub y cyfryw ; fod ei waed ef yn glanhau oddiwrth bob pechod; fod tyrfa fawr yn y nef o ddynion a fu mor aflan a neb sydd ar y ddaear, wedi eu golchi a'u cànu ganddo, ac wedi dechreu canu y gân felus hòno na bydd diwedd arni byth: " Iddo ef yr hwn a'n carodd ni, ac a'n golchodd ni oddiwrth ein pech- odau yo ei waed ei hun--"y byddo y gogoniant a'r gallu yn oes oesoedd, Amen." A hofl' waith y Uall, sef pob Cristionogol gynnulleidfa, yw gwrando ar y newyddion diddanns hyn. Cymmerodd y gwaith hyn o bregethu a gwrando am Grist le rhyngom ni yn y fan yma er's pedair blynedd ar ddeg, ac ychwaneg: ac nid yn unig ar y Sabboth, ond mynych ar amserau ereill y bu yn bleser gan rai o honom ymddiddan ain dano fel unig a digonol Iachawdwr i ni bechaduriaid. Ond y pleser o fwynhau y pethau hyn fel y cawsom, fe allai, na chawn byth mwyach. Ac onid yw meddwl am hyn yn beth cylFröus iawn i'n teimlad- RHAGFYR, 1833. au! Iö, onid ydym yn barod i ollwng dagrau hiraethlawn, fel St. Paul a'i Ephesiaid, adn. 37, 38. gan nas gwyddom a welwn eia gilydd mwyach! A. gyfarfyddwn ni etto yn y byd hwn, ai nis gwtìawn, gwybyddwn y bydd raid i ni gyfarfod yn y farn, a rhoddi cyfrif pafodd yr ymddygasom fel gweinidog a chynnull- eidfa. Wrth feddwl am yr amgylchiad sobr hwrtw, y mae yn ofidus genyf na bu- asai fy Ilafur a'm diwydrwydd yn fwy, fy zel a'm bywiogrwydd yn wresocach, a'm gweddi yu dacrach ar Dduw am fendithio fy ngweinidogaeth yn eich plith. Yn awr nid oes genyf ddim i'w wneuthur ond cyfaddef fy meiau ger bron Duw, ac erfyn arno, gyd â'r Fublican, " Arglwydd, bydd drug-arog wrthyf bechadur." Mewn perlhynas i athrawiaeth—amcen- ais bob amser bregethu i chwi yr hyn a bregethodd St. Faul i'r Ephesiaid. " Chwi a wyddoch," eb efe, " er y dydd cyntaf y daethum i Asia, pa fodd y bum i gyda chwi dros yr holl amser. Y modd nad atteliais ddim o'r pethau buddiol heb eu mynegu i chwi. Gan dystiolaethu i'r Iuddewon, ac i'r Groegiaid hefyd, yr edi- feirwch sydd tu ag at Dduw, a'rffydd sydd tu ag atein Harglwydd Iesu Grist." Adn. 18,20,21. Onid ydym yn rhwym o gasglu oddiwrth yr adnodau uchod, mai edi/eir- wch a ffydd oedd sylwedd pregethau St. Paul, a chynnwysiad y " pethau buddiol nad attaliodd heb eu mynegu i'r Ephes- iaid ì" Y gwrthddrych mwyaf yn fy ngolwg innau, tra bum yn eich pliüi, oedd eich cyminell i edifarhau a chredu. Clyw- soch ddywedyd o'r man hyn lawer gwaith, mai " mewn anwiredd y'ch lluniwyd"—a'ch bod " wrth naturiaeth yn blant digofaint;" ac yn ganlynol, bod yn rhaid i drwyadl gyfnewidiad gymmeryd Ue ynoch.—Ar- Yy