Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y GWYLIEDYDD. Llyfr X.] TACHWEDD, 1833. [Rhif. 127. PREGETH A DRADDODWYD YN EGLWYS LL-----DD-----L, SWYDD FEIRION, AR YR ACHLYSUR O DDIOLCHGAItWCH AM Y CYNHAUAF, 1833. FSALM lxviii. 19. " Bendigedig fyddo 'r Arglwydd, yr hwn a'n Uwytha beunydd â daionij sef Duw ein Hiach- awdwriaeth." Dichon i ni fel cenedl arfer y geiriau hyu mewn perthynas i'r cynhauaf diw- eddaf; oblegid cawsom eiu cynnysgaethu â llawnder o drugareddau, ac â thywydd da i'w casglu ynghyd. Coronodd yr Ar- glwydd y flwyddyn honâdaioni,eilwybr- au a ddiferant frasder. Dylai Duw gael ei foliannu am bob rhan o'i ddaioni tu ag atoui, pa un bynag ai tymhorol ai yspryd- ol, am fod yr hyn sydd yn fuddiol i'r corph, os iawn ddefnyddir ef, yn llesol i'r enaid hefyd. Oddiwrth y testun ystyr- iwn ddau beth, I. Y Weddi: " Bendigedig fyddo'r Ar- glwydd." II. Y rheswrn sydd yn galw am hyn: " Yr hwn a'n llwytha beunydd âdaioni." Gan adael y rhan olaf o'r testun, cyf- yngwn ein sylwadau at y ddau beth hyn, fel y maent yn dwyn perthynas â'n cyn- nulliad ynghyd ymaheddyw. Yr oedd y Psalmydd yn dymuno bendithio yr Ar- glwydd. Dendithio yr Arglwydd, yw ei gydnabod a'i gyhoeddi yn fendigedig, yn Wrthddrych teilwng o bareh, addoliad, a diolch, megys rhoddwr ein holl drugar- eddau. Yr oedd yn ei gyfrif ei hun yn greadur Duw, wedi ei lunio gan ei law, si'i gynnal gan ei ddaioni, ac yn ganlynol yn dymuno cael cymmorth i'w foliannu, ac yn ewyllysio i ereill trwy 'r holl fyd ei foliannu: " Pob perchen anadl molianned yr Arglwydd." Y sawl sydd wedi dewis yr Arglwydd yn rhan, addymuuantibawb oll feddu yr un fraint. Ond bydded i ni ystyried pa fath fawl a ryrnga fodd Duw. Nid digon yw i ni gyflawui dyledswydd, TACHWEDD, 1833. ond rhaid i ni ei chyílawni yn iawn. Ar y galon y mae Duw yn edrych ; ac y mae yn dy wedyd am y pur o galon, megys am Nathanael gynt, " Wele Israeliad yn wir, yn yr hwu nid oes twyll." Gweddîwn, " Crea galon lân ynof, O Dduw; ac ad- newydda yspryd uniawn o'm raewn." Gelwir arnom yn awr i fendithio yr Ar- glwydd am ei ddaioni yn rhoddi i ni lawnder o drugareddau y bywyd hwn yn ddiweddar. Ond y mae yn rhaid i ui ddangos gwirionedd ein diolchgarwch trwy ein bucheddau, oblegid y fuchedd y w dangosydd y galon. Os oes gwirion- edd yn eich mawl a'ch diolchgarwch, ni chamddefnyddiwch haelioni y Nefoedd: y mae dwy tfbrdd i wneuthur hyn, sef, trwy afradlonrwydd, a thrwy gybydd-dod. Afradlonrwydd y w gwario rhoddion Duw niewn balchder, gwagedd, a chwantau pechadurua. Ppb traul ofer, pob traul groes i reswm, cydwybod, a gair Duw, sydd weithred o afradlonrwydd, ac yn gaulynol yn gamarferiad o ddaioni rhag- luniaethol Duw. Gellir dywedyd hefyd am gybydd-dod: pob rhodd a atteliwch oddiwrth y tlawd ag y ruae eich dyled- swydd at Dduw a dyn yn galw arnoch i'w chyfranu, yr ydych trwy hyny yn euog o gybydd-dod, ac felly yn ymddwyn yn an- niolchgar i roddwr pob peth, ac hefyd yn anghyfiawn tu ag at Dduw a dyn. Mae Duw yn rhoddi pethau da i chwi, er rnwyn i chwi wneud daioni â hwynt. Os na wuewch dda â hwynt, yr ydych yn at- tal daioni oddiwrth y sawl y perthyn idd- ynt. I'r gradd yr ydych yn methu yn eich ymddygiad i ochel y pechodau a soniwyd am danynt, i'r gradd hyny hefyd yr ydych yn camddefnyddio rhoddion y nef. Ac os ydych yn arwain buchedd ddifrodus yn ' S s