Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y GWYLIEDYDD. Llyfr X.] HYüREF, 1833. [Rhif. 125. Y DDEWINES O ENDOR* PREGETH A draddodwyd yn Eglwys D • , ar Fore Dydd Sabboth, Mehefin 23, 1833. 1 SAMUEL xxviii. 7. " Yna y dywedodd Saul wrth ei wcision, Ceis- iwch i mi wraig o berchcn yspryd dewiniaeth, fel yr elwyf ati, ac yr ytnofynwyf k hi. A'i weision a ddywedasant wrtho, Wele, y mae gwraig o berchen yspryd dewiniaeth yn Endor."î Y digwyddiad rhyfeddol a adroddir yma, os ystyrir ef mewn modd dyladwy, sydd dra adeiladol a phwysig. Y mae'r cyntaf yn ymddangos fel rhybydd, yn ein hyfforddi a'n cyfarwyddo i ymgynghori â Duw y'mhob anhawsder a phrofedigaeth, yr hwn yn unig a ddichon roddi doethin- eb: ac y mae 'r lla.ll i'w weled megys gweithred wirioneddol, yn sefydlu ar un- Waith y gred bwysfawr, fod yr enaid neu 'r yspryd yn fywiog ac yn esgud yn ei gyflwr ar ol angeu, gan barhau yr un fath ar ol yr ymddatodiad o'r babell ddaearol, hyd onid adunir y corph a'r enaid ynghyd drachefn yn y cyfodiad cyffredin y dydd diweddaf. Y mae'r testun, gan hyny, i'w olygu, nid gymmaint fel rhyw wrthddrych cywraint, ag y dylai fod, ar ol dwys ystyriaeth, o wir a Christionogol adeiladaeth. Ac yma nis gallaf lai na chynghori pawb i chwilio a darllen yr ysgrythyrau sanctaidd, y'mha rai y mae rhyw addysg yn barhaus i'w chael tu ag at gaffael iechydwriaeth dra- gywyddol: felly y dywed Apostol mawr y cenhedloedd mewn iaith oruchel a go- didog; " Yr holl ysgrythyr sydd wedi ei rhoddi gan ysprydoliaeth Duw, ag sydd • Gwel y llliifyn am Ebrill, 1832. % Gwel Esponiadau rhagorol Mr. Scott, y Drd. D'Oyly a Maut, Matthew Kenry, Bagster, Simeon, Horsley, Gray, Haitwell llorne, Mansford, Staclc- houae, Boothroyd, Dathe, Townseud, H. Lindsay, Ciilniet, Charles, Parlthurst, Lempriere, Schleusner, »c ereill. Gwel hefyd Act. 8. 11. a 13. 8. a 10. 10. HYDREF, 1833. fuddiol i athrawiaethu, i argyhoeddi, i geryddu, i hyfforddi mewn cyfiawnder: Fel y byddo dyn Duw yn berffaith, wedi ei berffeithio i bob gweithred dda." 2 Tim. 3. 16. Y mae anghymmedrolder Noah dduwiol pan oedd anwyliadwrus a diofal (er yn wrthddrych o wawd i'w fab ei hun, megys fe allai i lawer yn ein dyddiau ni) yn rhybydd difrifol i bob Cristion. Ym- ollyngodd llarieidd-dra nefolaidd Moses tan anghred a digter. Amynedd Job, er yn ddigyffelyb, etto oedd yn ammherffaith a phechadurus. Yr oedd rhinweddau gor- eu y brenin Dafydd wedi eu cymmylu a'u difwyno gan droseddiadau o'r lliw duaf. Ac yn olaf, er nid y lleiaf o'r cwbl, darfu i Petr zelog a hyderus ymadael gymmaiut â llwybr ei ddyledawydd fel y darfu iddo fradychu ei Arglwydd a*i Athraw, a hyny y'ngwynebamryw haeriadau o bobtu. Y rhai hyn a'r cyffelyb ydynt addysgiadau i ni, gan nad ydym ond cig a gwaed, ac wedi ein hamgylchu â'r unrhyw wendid- au ; megys y dywed yr Apostol mewn man arall, " A'r pethau hyn a wnaed yn siampl- au i ni, fel na chwennychem ddrygioni, megys ag y chwennychasant hwy." 1 Cor. 10. 6. Ond i ddychwelyd yn nes at y tes- tun, gellir eich cynnorthwyo i'w ddeall yn well drwy^osod o'ch blaen ryw ychydig o'r hanes rhyreddol hwn fel ag y traddodir ef yn yr Ysgrythyr Lán. " Yna y dy» wedodd Saul wrth ei weision, Ceisiwch i mi wraig o berchen yspryd dewiniaeth, fel yr elwyf ati, ac yr ymofynwyf â hi. A'i weision a ddywedasant wrtho, Wele, y mae gwraigo berchen yspryd dewiniaeth yn Endor. A Saul a newidiodd ei ddull, ac a wisgodd ddillad ereill; ac efe a aeth, a dau wr gyd âg ef, a hwy a ddaethant at y wraig liw uos. Ac efe a ddywedodd, Dewinia, attolwg, i mi trwy yspryd dew- iniaeth, a dwg i fynu ataf fì yr hwn a ddy- wedwyf wrthyt. A'r wraig a ddy wedodd o o