Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y GWYLIEDYDD. Llyfr X.] MEDI, 1B33. [Rhif. 125. COFIANT Y PARCHEDÍG GRIFFITH JONES. [Parhad o du dalcu 227.] Llanddowror oedd cynnullfan cyffred- in y difrifol o bob parth o'r gwledydd y dyddiau hyny ; a chynnullai nifer tra Ui- osog yno, yn enwedig ar Sul y cymun. Llwyddiant nid bychan a goronai weinid- ogaeth gyhoeddus Mr. Jones; ond nid ymfoddlonai ar hyny, arferai gyweiiio allor i Dduw Israel yn ei deulu, ac ym- ddiddanai yn rhwydd â phawb a ddöi yno, yr hyn a fu yn fendithiol i lawer- oedd. Ei ddull cyffredin yn yr addoliad teuluaidd oedd, nid yn unig galw y teulu ynghyd foreu a phrydnawn, ond rhoi rhyddid i'r cymmydogion a ewyllysiai i ddyfod hefyd. Dechreuai jryda gweddi fer; ar ol hyny darllenai ran o'r Ysgryth- yrau Sanctaidd, ac adroddai rhai o'r teulu ar eu tafod leferydd adnodau o'r bennod neu y Salm oedd i'w darllen mewn trefn, a sylwai yntau ychydig ar y bennod a'r adnodau hyny; yna canent fawl, a diw- eddai gyd àg ymbiliau a diolchgarwch. Nid esgeulusai y dull hwn o addoliad teuluaidd er diiu, oni byddai yn glafneu oddi cartref. Byddai yn arferol o holi ei deulu a'i gymmydogion bob nos Sabboth o leiaf. Heblaw gweinidogaethu yn sefydlog yn y plwyfydd dan ei ofal, g.ilwyd ef yn fyn- ych i bregethu mewn lleoedd ereill. Yr oedd yn ddefod ym mhlith y Cymry gadw cyfarfodydd i chwurëyddiaethau cyfl'redin ar Ddydd Llun y Pasg a'r Sulgwyn, a'r dyddiau hyny a ddewisai yntau i fyned i bregethu iddynt. Ymddangosai y tyrfa- oedd ar y cyfryw achlysuron ar y cyntaf yn ffyrnig athra anfoesgar; ond yn raddol, dan bregethiad Mr. Jones, canfyddid eu gwedd yn sobri i symlrwydd mawr, hyd yn nod i wylofain a dagrau. Mor U'iosog MEDI, 1»33. fyddai y tyrfaoedd, ar rai amserau, fel nad allai yr Eglwysi eu cynuwys, a phreg- ethai yntau yn y fonwent. Fel hyn yr oedd Mr. Jones yn llafurio yn ddiwyd yn ngwaith ei Arglwydd, ac fel hyn yr ym- drechai y'mhob ffordd i godi teyrnas Crist, trwy fwrw cestyll annuwioldeb i'r llawr, mewn cariad at eneidiau dynion. Yr oedd ganddo hefyd o dan ei ofal amry w a fuont yn ddynion llewyrchus a defnyddiol yn yr eglwys ar ol hyny. Am weinidogaeth gyhoeddus Mr. Jones, rhagorai yn fawr yn ei ddewisiad o destun- au addas at gyflyrau ei wrandawyr. Nid allai wneuthur hyn heb gymdeithasu lla- wer â'i braidd, ag oedd, yn ddiddadl, yn agos iawn at ei galon. Yr oedd ei ddull o ymadroddi yn íìniog ac yn ddeffröus— ei bregethau oeddynt yn athrawiaethol, yn ddefnyddiol, ac yn fucheddol, yn cadw ym mhcll oddiwrth benrhyddid Antinom- aidd, a deddfoldeb digysur ac anffrwyth- lon. Yr olwg arno yu myned i'r areithfa oedd yn neillduol sobr a phwysig, ac ym- ddangosai difrifoldeb mawr ynddo tra byddai yn gwasanaethu yn nhŷ Dduw, iaith ei ymddygiad oedd, " Nid oes yma onid tý i Dduw, a dyma borth y nefoedd." Yn ei bregethau, dechreuai yn bwyllog, ac mewn dull cyfeillgar, hyd nes y treidd- iai i mewn i'w bwngc, pan y gwresogai ei yspryd, a pharhâi yn fywiog ac yn awd- urdodol hyd y diwedd; ac yn y modd hyn y dygai ei wrandawyr i ddyfal ystyriaeth o'r gwirioneddûu pwysig a draddodai. Darluniai yn ardderchog, rhesymai yn gadarn, cynghorai yn fywiog, a rhybudd- iai yn llym. Yr oedd ei holl enaid yn y gwaith, wedi ei u wisgo â nerth o'r uchel- der;'' ac yn profi yn eglur ei addasrwydd rhagorol i weini ym mhethau sanctaidd Duw. Ymddygai Mr. Jones bob amser yu addfwyn, yn sobr, ac yn garedig tu ag at K k