Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

GWYLIEDYDD. FR X.] AWST, 1833. [Rhif. 124 COFIANT Y DIWEDDAR BARCH. GRIFFITH JONES, PERIGLOR LLANDDOWROR, VN SWYDD GAERFYRDDIN. Ganwyd y Parch. G. Jones o deulu parchus a chrefyddol, yin mhlwyf Cil- Hìedyn, yn Sir Gaerfyrddin. Awyddus atn wybodaeth, ac yn meddiannu atliry- lith dda, efe a addurnodd foreu ei fywyd trwy astudrwydd diwyd a llwyddiannus. Bu farw ei dad pan yr oedd efe etto yn blentyn. Ar ol iddo dreulio rhywfaint o amser mewn ysgol yn y wlad, rhoddodd «i fam ef o dan ofal ysgolhaig enwog ag oedd yr amser hwnw yn cadw yr Ysgol Ramadegol yn Nghaerfyrddin. Er fod Mr. J. yn llesg, ac yn waelei iechyd, etto öid felly yr oedd ei wybodaeth; daeth yn fuan yn gynnefin â'r ieithoedd Groeg a Lladin, yn gystal a changhenau ereill o ddysgeidiaeth. Amlygodd,oddeutu yrun atnser, ddifrifwch nid bychan yn ei ym- ddygiad cyflTredinoI: gwelid ef yn fynych yn cilio o'r neilldu, o sŵn y difyrwch a'r ysbleddacb ag sydd yn gyfií'redin yn dwyn serch ac yn llygru ieuengctyd, i fwynhau ei Dduw yn y dirgel. Dangosodd, yn forcu, duedd cryf at y swydd offeiriadol, ^ gweinidogaeth y cyssrgr, er yr ystyriai, bob aniser, fod y swydd oruchel hon, a'r gwaith cyssylltiedig â hi, yn beth o'r Pwys, a'r canlyniad mwyaf. Urddwyd ef, Medi 6, 1708, yn Ddîacon gan y dysgedig Esgob Bull; ac yn Oileir- ìad, Medi 25, 1709, yn Nghapel Abermar- lais, gerllaw Llanddyfri, gan yr un Esgob. Yr oedd Mr. J. yn dal y parch mwyaf tu ag at ei anrhydeddus Esgob, gan yr bwn y derbyniodd lawer o gynghorion da, na adawodd byth yn anghof; ond a fuont yn destynau, am ba rai yr ymddiddanai Mr. J. gyd â'r diolchgarwch penaf dros ei oes. Cyflwynwyd ef, Goiphunaf 31, 1711, i AWST, 1833. bl.wyf Llandilo Abercowyn ; a Gorphenaf 17,1716, i Berigloriaeth Llanddowror, gan Syr John Phiilips, Barwnig, o Picton Castle, yn Swydd Benfro, rhwng yr hwn a Mr. J. y bu cyfeillach agos tra bu byw. Cafodd y dyrchafiad hwn, gan Syr Jobn, heb un deisyfiad o'r eiddo ei hun, na neb o'i gyfeillion, ond, yn hollol, o ran ei ddysgeidiaeth a'i dduwioldeb. Priododd, ar ol hyn, ferch i Syr Erasmus PhiIIips, a hanner chwaer i Syr John Phillips. Bu farw Mrs. Jones yn y fl 1755, yn 80 mlwyddoed. Ymddengys, oddiwrth lytbyrau Mr. J. ei bod hi, yn gyfi'redin, yn wanaidd o ran ei hiechyd, a'i fod yntau yn dra gofalus, ac ystyriol, tu ag ati yn ei mynych waeledd. Heblaw Llauddowror a Llandilo byddai Mr. J. yn gwasanaethu, yn achlysurol, yn Llan- llwch, yn agos i Gaerfyrddin. Yno, o dan ei weinidogaeth rymus, y cafodd Miss Bridget Vaughan, merch ------ Vaughan, Yaw. ym mhlwyf Merthyr, ei haddysgu yn fanylach yn llòrdd Duw. Yr oedd hi yn ferch foneddig hardd a syn- wyrol Priodwyd hi âg Arthur Be- van, Ysw. o Laugharne. Bu farw Mr. Be- van, Mawrth 6, 1742, yn 56 mlwydd oed. Tra y trigodd Mrs. Bevan yn Llaugharne, oddeutu pum milltir o Landdowror, a thair o Landilo, byddai yn arferol o fyned, cy- hyd ag y bu Mr. J. fyw, yn gyffredin, bob Sabboth, i wrando arno yn uno'rddwy eglwys, a bu cydnabyddiaeth rhyngddynt tros lawero tlynyddoedd, fel yr ymddeng- ys oddiwrth nifer o lythyrau ag sydd ar gael, y rhai a ysgrifenodd Mr. J. at Mrs. B. ac a barodd hi eu hadysgrifenu incna llyfr i'w cudw. > F f