Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y GWYLIEDYDD. Wfr X.] GORPHENAT, 1833. [Rhif. 123. PREGETH DRADDODWYD YN EGLWYS LL----------S, SWYDD DDINBYCH, EBRILL 14, 1833, ER CYDNABOD DAÍONI DUW YN SYMUD YMAITH Y CHOLER'A MORBUS. GaI.ARNAI) 3. 23. " Trngarcddau yr Arglwydd yw na ildarfu am 'ì-'tnom ni: o berwydd ni plialla eidosluriaethati et'." Ein bwriad yn fwyaf neillduol y tro presennol wrth ymgynnull ynghyd, ydyw Ltlu ufuddaf a ffyddlonaf ddiolch i'r Holl- alluog Dduw am ei diriondeb tu ag at ein gwJad yn gyffredinol, yn symud oddi Wrthym y clefyd brawychus hwnw, a elwir ÿ Cholera Morbus. Brawychus yn wír tu bwnt i bob amgyffred oedd ei ymosodiad- ^u disymmwth, ychydig amser yn ol, mewn amryw ranau o'r deyrnas hon. Nid Oedd yn arbed un oedran. Yr ydoedd yn ysgubo dynion i lawr, yn enwedig mewn trefydd, wrth y cannoedd a'r miroedd. Mewn amrywiol o dai yn Lloegr, lle hyddai teulu mawr yn cyfaineddu, ar ymweliad dychrynllyd y clefyd hwn, nis gadawid un ar ol i ddywedyd pa fodd y bu Bryd arall, symudai ymaith ryw an- wyl blentyn o fynwes ei dirion fam, yr hwn, yn ol hoff ddisgwyliad ei rieni, a fyddai ryw amser rhagllaw, yn ddiddan- wch ac yn gysur iddynt, yn gynnorthwy Cyfamserol iddynt yn eu nychdod a'u hen- aint, pryd y byddeiit fwyaf mewn eisieu help i'w cynnal a'u hamddiffyn. Yn y tý nesaf cymmerid ymaitb y gwr o ganol ei deulu. Ar hwn y siriol wenai ei wraig, Ht hwn y rhedai ei blant bob amser am gyfarwyddyd, ar hwn yr ymddiriedai yr holl deulu am eu beunyddiol ymborth, ar hwn yr hyderent am gymmorth ac amddi- ffyniad ar bob achlysur: nid oedd gan- ddynt ie i droi yn eu cyfyngder tymhorol ond atto ef; etto angeu a gipiai hwn o'r byd, a'r teulu a welid wedi syrthio mewn niath o syfrdandod: a phan ddadebrent o'r Cyflwr hwn, canfyddent, ereu hanuhraeth- GORPHENAF, 1833. ol ofid, fod eu cynnaliaeth gysurus o'r blaen wedi cymmeryd adenydd, ac ymad-' ael â liwynt— fod efe, at yr hwn yr edrych- ent i fynu dan bob amgylchiad, at yr hwn y rhedent ym mhob cyfyngder bydol —yr hwn a arferai gymmeryd yr holl ofal, a'r holl faich arno ei hun—fod efe wedi ei wysio i'r byd tragywyddol, a hwythau yn atnddifaid wedi eu gadael ar ol. Mewn lle arall, y wraig hithau a darewid gan y clefyd marwol hwn. Yn iach, yn heinif, yn llawen-galon ddoe, ac yn mwynhâu cymdeithas dawel ei theulu, heddyw yn nhragywyddoldeb. Ddoe yn ddiwyd rag- ddarparu gogyfer a blynyddoedd i ddyfod, yn parotoi pethau i'w mwynhâu rhagllaw, heddyw wedi gorfod canu yn iach i bob gwrthddrych dacarol. Yr undeb, yr hwn, o leiaf mewn ymddangosiad, a gydiai mor gadarn y gwr a'r wraig ynghyd, yn ddi- symmwth a ddattodid. Er cymmaint oedd eu serch y naill tu ag at y llall yn eu bywyd, nid oedd brenin y dychryniadau yn gwneuthur dim pris o hono : symudai un o honynt i'r byd tragywyddol, a gad- awai 'r llall i alaru ar ol. Yr oedd y bedd megys yn gwaeddi yn ddiorphwys, " Moes, moes;" ac er y tyrfaoedd a welid yn syrthio yn ysglyfaeth iddo, etto nid oedd yn ýmddangos fel yu cael ei ddigoui. Dyma fel yr oedd yn Lloegr (heb sôn am wiedydd tramor) am lisoedd lawer. Ond i ddyfod yn nes adrëf atom ein hunain ; onid fel hyn yr oedd wedi digwydd mewn amrywiol fanau yn Nghymru? Onid fel hyn yr oedd mewn rhai trefydd cym- mydogaethol? Onid yn y modd hwn yr oedd mewn un dre/yn enwedig yn y Sir hon ( Yr oedd angeu yn gwneuthur di- frod ofnadwy mewn un cvvr o honi, fel yr B b .■