Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y GWYLIEDYDD. Llyfr X.] EBLIILL, 1833. [Rhif. 120. SYLWEDD PREGETH AR Heb. xi. 21. " Trwy ffydd, Jacob, wrth farw, a feudithiodd bob nn o fcihion Joscpli; ac a addolodd Î.1 bwys ar bcn ei ffon." Wrtii fyfyrio ar lumes y gwr duwiol a enwir yn y testun, yr hwn a gyfarfu â chynnifer o helbulon a nemawr un o'r hen datlau, gallwn gael (o dan fendith Duw) lawer o addys-íiadau gwerthfawr, a budd ysprydol i'n heneidiau. Ystyriwn, I. Hanes Jacob, dan y penau canlynol. 1. Ei febyd yn nhŷ ei dad. Mab yd« oedd i Isaac a Rebeccah. Ei fam, wedi bod ugain mlynedd yn ammhlantadwy, a esgorodd ar ddau fab, y rhai cyn eu geni a ymwthiasent yn ei chroth hi: yr oedd hyny yn arwyddo y byddent yn dadau dwy wahanol genedl; " a'r naill bobl (ebai yr Arglwydd) fydd cryfach na'r Üall, a'r hynaf a wasanaetha yr ieuengaf." Esau oedd yr hynaf; eithr Jacob, trwy drefniad dwyfol (ond trwy foddion an- nheilwng) a gafodd yr enedigaeth-fraint a'r fendith. Oblegid hyny ei frawd a lid- iodd wrtho, gan fwgwth ei ladd; ac felly gorfu ar Jacob ffoi o dý ei dad. 2. Ei daith i Mesopotamia. Trwy gyngor ei r'ieni, Jacob a gychwynodd i fyned i gartref Laban, brawd ei fam. Er ei fod yn niyned ei hunan yn unig i daitli mor bell, yr oedd bendith ei dad gyd âg ef, anawdd Duw Hollalluog. A Jacob a lettyodd noswaith mewn mangre ar y lîbrdd, lle nad oedd ganddo ond carreg yn obenydd, cysgodau nos yn lleni ei wely, a'r awyr faith yn dô uwch ei ben. Ond Cafodd ymweliad ysprydol hynod iawn. Gwelodd mewn breuddwyd ysgol fawr yn cyrhaeddyd o'r ddaear i'r nefoedd: ac Wele yr angylion yn dringo ac yn disgyn ar hyd-ddi, a'r Arglwydd ei hun yn sefyll ftrni, ac yn ei fendithio ef. Trwy y wel- edigaeth ryfedd hon cysurwyd Jacob yn fawr; a phan ddtìfftöcs, efe a gyssegrodd y lle hwnw yn dý i Dduw, ac a'i galwodd EBRILL, 1833. líethel. Efe a aeth rhagddo yn gysurus ar ei daith, ac a ddaeth i Haran, llc y cyfarwyddwyd ef gan ryw fugeiliaid i dý Laban ei ewythr, yr hwn a'i derbyniodd yn garedig. 3. Ei drigias yn Mesopotamia. Wedi i Jacob aros a gwasanaethu gyd à'i ewythr oddeutu mis, Laban a gynnygiodd iddo gyllog. Ac yr oedd i Laban ddwy o ferched, yr ieuengaf yn un landeg, ond yr hynaf â Uygaid gweiniaid. A Jacob a gytunodd i wasanaethu Laban saith nilyn- edd am Rahel ei ferch ieuengaf; eithr pari ddaeth yr amser i ben, rhoddwyd Leah iddo trwy ddichell yn Ue Rahel, am yr hon y gwasanaethodd etto saith mlynedd ereill. Gwasanaethodd hefyd chwe blyn- edd ym mhellach am gyfran o'r praidd. Ei wragedd, a'u dwy lawforwyn, a ym- ddygasant iddo un ar ddeg o feibion, ac un ferch, a'i dda bydol a gynnyddodd yn rhagorol. Wedi bod o Jacob yno ugain mlynedd, bwriadodd ddychwelyd i wlad ci enedigaeth. 4. Ei ymadawiad o Mesopotamia. Part welodd Jacob fod Laban, a'i feibion, yn ymddwyn yn angharedig tu ag ato, gan geníigenu wrth ei lwyddiant, efe, trwy gyfarwyddyd yr Arglwydd, a ymadawodd oddi yno, gan ddwyn gyd âg ef yr hyn oll oodd ganddo: ond ni fynegodd i Laban, yr hwn pan glybu a erlidiodd ar ol Jacob, ac ar y seithfed dydd a'i goddiweddodd yn mynydd Gilead, lle y gwnaethant gyf- ammod â'u gilydd; a Laban, wedi canu yn iach iddynt, a ddychwelodd i'w le ei hun: a Jacob a'i deulu a aethant rhag- ddynt tua gwlad Canaan. 5. Ei arosiad yn Nghanaan. Pan ddaethant i Mahanaim, Jacob a gafodd nerth gyda Duw mewn gweddi, ac a ddy-