Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y GWYLIEDYDD. rPR X.] MAWRTH, 1833. [Rhif. 119. COFIANT ROBERT YAUGHAN O'R HENGWRT, YSWAIN, A'R HYNAFIAETHYDD GODIDOG, YR HWN A FU FARW YN Y Fl. 1667. Mr, Gwyliedydd.—Y mae diolchiad- <ìu pob hoffwr hynafiaeth ei wlad a'i gen- edl yn ddyledus i chwi am eich bwriad o gyhoeddi ail-argraphiad o waith y dy3g- èdig Mr. Robert Vychan o'r Hengwrt, dan yr enw " British Antioiuties Revived," neuAd-hybiadHynafiaethauPrydeinaidd. Er gwneyd eich argraphiad yn hysbysach i hynafiaethwyr Cymroaidd, dichon y bydd o wasanaeth i mi osod gar eu bron ychydig o hanes yr Awdwr myfyriol a chlodwiw. Yn gyntaf ei Ach.—Efe ahanai lin-o-lin o Gadwgan, ail fab Bleddyn ab Cynvyn, TywysogCynnu ynyrunfed ganrifarddeg. Un o brif anneddau Cadwgan oedd ger- llaw Dolgellau,am hyny âchwyr a'i galw- cnt " Cadwgan o Nannau." Tua diwedd ei oes, er gwell diogelu cyffiniau dwyrein- iol Powys rhag ymgyrchiadau Saeson y Mers, dechreuodd adeiladu Castell y Tra- llwng goch, ond cyn pen hir, fe'i cynllwyn- Wyd ac a'i lladdwyd yn y parc gerllaw, nid gan elynion, îs-glawddogion Ofî'a, ond gan fradwr annynol, ei nai, mab ei frawd ei hun, Madog ab Rhiryd. Madog, mab y Cadwgan uchod, a ymsefydlodd yn Nan- hau, a'i fab, a'i ŵyr, a'i orŵyr yn olynol: yna Meirig mab hynaf Ynyr Fychan, ond Hywel ab Ynyr, ei frawd, a anneddodd yn y Wen graig, ar odrau Cadair Idris. Yno y bu ei ddisgynyddion hyd y chwech- ed genedlaeth ar ei ol, y pryd y jiriododd Gruflydd ab Ynyr o'r Wren-graig etifeddes yr Hengwrt, yr hon oedd ẃyres i'r Barwu Lewya Owain, a laddwyd gerllaw Mall- wyd gan Wylliaid Mawddwy, yn y íl. 1555. Mab o'r brîodas hon oedd ein hynafìaeth- ydd godidog, ac efe a ymsymudodd o'r Wen-graig i dreftadaeth ei fam yn yr Hen- gwrt, lle y treuliodd ei oes yn casglu ys- grif-lyfrau o bob parth, pell ac agos : ŵyr, MAWRTH, 1833. neu orŵyr iddo ef, a pherchenog yr Hen- gwrt, a briododd Janet Vychan, etifeddes Nannau, a mab iddynt hwy oedd Syr Ro- bert Howel Vychan, tad y Barwnigurdd- asol a biau Nannau yn bresenol, a thad Gr. Howel Vychan, o Rug, ac a berchen- oga yr Hengwrt. Yn ail, ei Lafurwaith.—Cadwai Mr. R. Vychan yn barhaus yn ei lyfrgell ysgrifen- ydd hylaw i'w gynnorthwyo i adysgrifo hen lyfrau a ymddiriedid iddo gan ddysg- edigion ac eraill o'i gydnabyddiaeth. Yr oedd dau eraill o gasglyddion ysgrif-lyfr- au yn gyd-oeswyr ag ef: un oedd Mr. John Jones, o'r Gelli-lyfdy, plwyf Ysgeiriog: cyd-unodd hwn â Mr. R. Vychan y byddai i gasgliad yr hwn a fyddai marw gyntaf, fyned at drysorfa y byw; yn ganlynol, pan fu marw Mr. Jones, aeth ei gasgliad, o gylch hanner cant o Ysgrif-lyfrau cyn- nwysfawr i lyfrgell Hengwrt, i'w chwan- egu at ogylch saith ugain o'r cyfryw lyfrau a gasglesid gan yr oesoedd hwyaf. Y" trydydd casglydd oedd Mr. William Mau- rice, uchelwr o blwyf Silin, yr hwn, er i'w ferch Lettus br'iodi D. Williams, Yswain, o Lan-Alaw ym Môn, a adawodd ei Lyfr- gell, yn cynnwys 9G o ysgrif-lyfrau helaeth yn yr iaith Gymraeg, a deg yn Lladin, » Syr Wiliam Wiliams, Barwnig, o Lan Fordaf, hen-daid y Barwnig urddasol sytld yn bresenol yn Wynnstay. Nid ammherthynol a fyddai enwi rhai ö'r Ysgrif-lyfrau a gasglwyd ynghyd gan ein hynafiaelhydd yn yr Hengwrt, 1. Hen Lyf'r o Gyfreithiau Dyfnwal, Maelgwn, Hywel Dda, a Bleddyn ab Cynvyn.—2. Llyfr Cyfreithiau yr hen Gymry,annarllenadwy o henaint.—3. Llyfr o Gyfreithiau yr hen Gymry, na chynnwysir mewn Ilyfrau er- aill.—4. Lljfrau Morgan <«. Chyfnertìl,