Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y GWYLIEDYDD. Llyfr X.] CHWEFROR, 1833. [lUllF. 118. GWYL Y GWIRIONIAID, A'R YSTWYLL. Mak y tymmor hwn o'r flwyddyn yn irhoddi achlysur manteisiol i sylwi ar fat- erion nad ystyrid mo honynt o gymmaint pw\s ar dymmorau ereill. Yn niwedd yr hen flwyddyn, ac yn nechreu y newydd, y mae ein Heglwjs yn coffadwriaethu dwy Wyl arbènig, am achlysuron pa rai nid y w gwerin ein hoes a'n cenedl ond lled anhys- bys, ac y mae 'r ychydig-syniadau sydd gènynt am yr unrhyw yn lled ddychym- mygol, os nid mewn cryn radd yn gamsyn- iadol. Y Gwyliau hyn ydynt, Gwyl y Gwirioniaid, a gynnelir ar yr 28ain o Ragfyr; a'r Serf.n W yl, neu'r Ystwyll, a gynnelir ar y üed o îonawr. Gwnawn ychydîg sylwadau ar y ddwy Wyl hyn yn Wahanedig, er bod cyssylltiad neillduol rhwng yr achlysuron o lionynt. I. Gwyl y Gwirioniaid. Yr achlysur pennodol o hon, y mae 'n ddiddadl, oedd merthyrdod " yr holi fechgyn oedd yn Methlehem ac yn ei holl gyfliniau, o ddwy flwydd oed, a than hyny," drwy orchymyn y brenin Herod Fawr, ar yr yingais wrth hyny o ladd ein Hiachawdwr Rendigedig, yr hwn, meddai y Boethion, a " anesid yn Fienin yr Iuddewon." Yr achos paham yroedd Herod mordanbaid yn yramgylch- iad hwn sydd eglur. Nid oedd efc ond estron ei hun i'r genedl Iuddewig, a'i darddiad o'r Idumeaid; eithr er mwyn ceisio gwneud ci hun yn fwy cymmeradwy gyd â'r Iuddewon, efe a briodai Mari- anme, pendefiges Iuddewig brydweddol, a niawr ei rhinwedd, o deulu yr Asmoneaid, yn yr hwn deulu y buasai yr awdurdod breninol ac offeiriadol dros 126 o flynydd- au. Eithr gan ofp.i rhag iddi hia'i pherth- ynasau droi allan yn fradwriaethus iddo ef, efe a fynodd ei Uadd hi a hwythau, ac hyd yn nod ei blant ei hun a fuasai iddo o honi! Nid rhyfedd, ynte, ei fod mor gy- tlnyblus pan glywai fod etifcdd ieuangc CHWEFROR, 1833. o'r hàd breninol Iuddewig wedi ei eni yn Bethlehem, yn cyfatteb i'r prophwydol- iaethau traddodedig am dano, a phan yr oedd dysgwyliad mor bryderus achyffred- inol yn y byd am y cyfryw un. Ond gan fod yr hanes am ferthyrdod bechgyn Bethlehem heb gael ei grybwyll gan ddim ond un o'r pedwar Efengylwr, sef Malthew (pen. 2. 1—18.) a bod Jo- sephus, yr hanesydd Iuddewig, yn hollol ddystaw am y peth, fe ddarfu rhai an- ffyddwyr rhyfygus anturio haeru fod yr hanes yn amcireddus. Mae 'n debygol mai y cableddus Yoltaire oedd y cyntaf a feiddiai hòni y fath wrthddadl. Eithr, fel y mae mwyaf dedwyddol, mie y gyfran hon, fel pob cyfran arall o'r gwirionedd sanctaidd, yn rhy gadarn i gael ei dym- chwelyd gan lu o'r fath anffyddwyr; yr hyn a gydnabyddir yn rhwydd oddiar yr ystyriaethau canlynol:—Yn gyntaf, Mae yr holl hancs a rydd Josephus am Herod yn ei osod allan fel yr adyn mwyaf bar- baraidd, ac felly yr un mwyaf tebygol o gyflawni y gyfryw weithred.— Yn ail, Fe wnaed efengyl Matthew yn gyhoeddus yn y 11. 38 o oedran ein Harglwydd, pan yn ddîammeu yroedd digon o dystion gwydd- fodol yn fyw i wrthbrofi yr hanes, a'r rhai y buasai hoff ganddynt gael cyfleusdra i gyhuddo y Cristionogion o'r fath anwir pe buasent yn medru. Ond y mae eu llwyr ddystawrwydd ar yr achos yn brawf o'r cadarnaf o gywirdeb hanes yr Efeng- ylwr.— Yn drydydd, Mae 'ramgylchiad yn cael yn ddiwad ei adrodd (er mai mewn dull gwawdus) gan y philosophydd Cel- sus,* un o elynion chwerwaf Cristionowg- rwydd, yn byw tua diwedd yr ail ganrif; yr hwn yn ddiddadl a fuasai yn gwadu y peth pe gallasai.— Yn bedwcrydd, Y mae * Gwi'l Lardmr'a H or/ts, Vol, viii. p, 21, 8vo. or Y'ul. iv. p. 122. 4to.