Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y GWYLIEDYDD. Llyfr X.] IONAWR, 1833. [Rhif. 117. PREGETH A DRAÜDODWYD YN EGLWYS LL-----R-----L, SWYDD FEIRION, AR YR ACHLYSLR O DDIOLCHOARWCH AM Y CYNHAÜAF, 1832. Matthew vi. 28. " Ystyriwch lili y maes, pa fodd y macnt yn tyfu." Y mae diiioni Duw yn amlwg yn ei air, ac yn ei greadigaeth: y naill fel y llall a ddeuant o'r un llaw hollalluog; ac yn- ddynt, megys mewn dau lyfr yn tystio gwirionedd y naill y lla.ll, y rhoddir i ddyn yr addysg a'r hyfforddiad goreu, a mwyaf perthynasol iddo. Eithr rhaid ys- tyried y ddau lyfr hyn ynghyd, rhag, os na chymraerwn y gair i'n cyfarwyddo, na roddwn i Dduw y gogoniant sy ddyledus iddo, a syrthio o honom i amryfusedd a phechod mawr y cenhedloedd o addoli y creadur yn fwy na'r Creawdwr. Er bod y nefoedd a'r ddaear yn datgan gogoniant Duw; etto, trwy yr efengyl y dygir i ni fy wyd ac anllygredigaeth i oleuni. M Nid edwyn neb y Tad ond y Mab, a'r hwn yr ewyllysio y Mab ei ddatguddio iddo." Mat. 11. 27. Nid oes agosddimaleinwyr enaid difrifol â mwy o hyfrydwch na dwys fyfyrio ar ryfeddodau mawrion y greadig- aeth; ac, ar y llaw arall, nid oes arwydd eglurach o feddylfryd daearol a gwag na by w yn ddideimlad ac anystyriol o wyrth- iau natur a rhagluniaeth. Ni wnaed y byd helaethlawn gan Oreawdwr doeth a da i ddangos ei weithredoedd i lygaid ni welant, a chalonau ni ddeallant. Yn wir, er ei fwyn ei hun jn benaf " y mae ac y crewyd pob peth"—yr hwn sydd yn lla- wenychu yn ei holl weithredoedd: eithr gelwir ar ddynhefyd, a'iddyledswydd yw bob amser, ei ogoneddu ef am ei anfeidrol ddaioni yn ei greu ac yn ei gadw. Ar ba ran bynag o'r greadigaeth y bwr- iwn olwg, cawn yno, niegys yn argraff- edig, gyflawnder o addysg gwerthfawr. Os chwennych yr ydym ddirnad a moli mawredd Duw, edrychwn i fynu ar y nef- IONAWR, IM33. oedd a daenodd efe fel llen uwch ein pen- au: cyhoeddant hwy eu Gwneuthurwr i'r mwyaf anwybodus, ac ynddynt y gwel y dysgedigion ryw ryfeddodau newyddion o hyd yn dangos ardderchawgrwydd y Gor- uchiif. Os ar y ddaear isod hon y syllwn, pa ymddangosiad a drych hynod sydd yma i'r duwiol i fyfyrio arnynt, ac i'r pwyllog i'w astudio. Y ddaear, medd Job, sydd y'nghrog ar ddiddim; a chan law anweledig y cyfarwyddir hi, heb ẃyro yn ei llwybr a'i cherddediad, a hyny mor gysson fel " na phalla pryd hau, a chyn- hauaf, ac oerni, a gwres, a haf, a gauaf, a dydd, a nos, holl ddyddiau 'r ddaear." Mor hardd a phrydlon yw gwisg a gwedd y ddaear oddi allan, i foddhau y Uygad, ac i roddi lluniaeth i ddyn ac anifail! Nid oes un cwr o'r ddaear, nac unrhyw greadur ynddo, yr hwn ni rydd i ni, os mynwn, ryw addysg a gwers er ein lles. l'r diben hwn y mae Duw yn ein hanfon yn fynych jn ei air datguddiedig t ddysgu ein dyledswydd oddiwrth siampl- au anifeiliaid y maes ac ehediaid y nef- oedd. Ein hanniolchgarwch a geryddir wrth siampl creaduriaid a gyfrifir yn fwyaf dwl a didringar:—" Yr ých a edwyn ei feddiannydd, a'r asyn breseb ei berchenog; ond Israel nid edwyn, fy mhobl ni ddeall.'' Ac i'n tynu oddiwrth syrthni a diogi, y gwr doeth a'n cyramell i ystyried natur un o'r creaduriaid lleiaf, ond yr un pryd yn un o'r rhai bywiocaf:—" Cerdda at y morgrugyn, tydi ddiogyn; edrych ar ei flyrdd ef, a bydd ddoeth: nid oes ganddo neb i'w arwain, i'w lywodraethu, nac i'w feistroli; ac er hyny y mae efe yn parotôi ei fwyd yr hâf, ac yn casglu ei luniaeth y cynhauaf." Diar. 6. 0,7,8. Acymaeein Hiachawdwr yn ein haddysgu yn aml drwy gyffelybiacthau wcdi eu benthyca