Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y GWYLIEDYDD. Llyfr IX.] AWST, 1832. [Rhif. 1Ì2. HANES BANGOR. CParítad o du dal. ltZ.J Mak haneswyr yn rhoi ar ddeall i ni fod yn Mangor unwaith gastell lled helaeth yn sefyll o du y dwyrain i'r dref, ar ben y bryn ar gyfer yr ysgoldỳ. Eithr gan mor lleied o'i ól sydd yn aros yn awr, nid yw yn hawdd penderfynu ei sefyllfa na'i faintioli. Dy wed un hanesydd ei fod yn cymmeryd i fynu dua chwarter cyfar o dir; ac y mae haneswýr ereill o enwogrwydd yn ei ddys- grifio yn fanylach, gan ddywedyd fod yr ochr dde-ddwyrain iddo yn mesur chwe tigain llath; yr ochr dde-orllewin driug- ain a chwech, yn cyrhaedd at y diphwys; a'r tu gogledd-ddwyrain yn ddeugain llath, ac yn terfynu yr un modd: ond y tu arall, yr oedd sefyllfa naturiol y lle yn hebgor muriau. Dywedir hefyd fod pridd-glodd- iau a chnepellau creigiau yn cyssylltu y niuriau gogledd-ddwyreiniol a'r rhai de- heu-orllewinol. Mynegir ym mhellach mai Huw Lupus, alius Huw Fras, o Gaer Lleon, a adeiladai y castell hwn i'r dyben o ddwyn y'mlaen ei ddistryw yn erbyn y Cymry, dan Edward y Cwncwerwr, tua 'r fl. 1070. Nid yw hysbys pa hyd y safodd ir amddiflynfa hon ; eithr tebygol ddarfod gadael iddi adfeilio yn raddol, pan nad oedd mwyach angen am dani. A chan nad oes weithian ond morlleied oolion yr adeilad yn aros, mae lle i gasglu mai gwaith coed ydoedd gan mwyaf, fel am- rywiol gastelli ereill y mae genym hanes ara danynt, ac mor lleied olion o honynt; ac os dadleuir ddarfod cludo y cerig o'r castell hwn i adeiladu tai y dref, fel y byddai yr angen am danynt, beth a ddy- Wedir ara rai ereill nad oes dim tai wedi eu hadeiladu yn agos i'w sefyllfa? Fe gafodd Eglwys Gadeiriol Bangor ei dinystrio amrywiol weithiau drwy gyn- ddaredd gwrthwynebol bleidiau yn amser rhyfeloedd cartrefol. Yn y fl. 1071 dym- awst, 1832. chwelwyd hi gan y Normaniaid.1 Ac yn y fl. 1210, pan wnaeth y brenin Ioan ym- gyrch yn erbyn y Cymry yn amser y ty- wysog Llywelyn ab Torwerth, yr ydym yn darllen iddo groesi yr afon Gynwy yn mis Awst, ac anfon miutai o'i filwyr y'mlaen i losgi Bangor, yr hyn hefyd a wnaethant yn efieithiol, gan ddala Rhobert o'r Mwyth- wig (fel y'i gelwid, yr hwn oedd yn esgob yno y pryd hwnw) a'i gymmeryd oddi ger bron yr allor, a'i ddwyn yn gareharor i wersyll y Saeson; ac yno y bu ryw hyd jnewn dalfa, hyd oni phwrcaswyd ei ryddid â dau cant o hebogiaid.2 Bu yma ddin- ystr drachefn meddir3 yn amser y brenin- oedd Harri y trydydd a'r pedwerydd; a mwy difrod fyth yn amser cynhyrfiadau Owain Glyndwr,4 tu a'r fl. 1402. Ar ol y difrod hwn dywedir fod yr Eglwys Gadeir- jol tua phedwar ugain mlynedd a deg jn adfeiledig, pan yr adgy weirid y gafell gan yr Esgob Dean (neu Deny)tyr hwn pan bennodid ef i fyned i esgobawd Caer Sefer (Salisbury) a adawai ei fugeil-flbn a'i feitr, y rhai oeddynt dra gwerthfawr, i'w olynwr yn Mangor, ar yr ammod o fod iddo ymrwymo i ddwyn y'mlaen, a chwbl or- phen yr adgyweiriadau a ddechreuasai efe.5 Ond y mae yn ymddangos mai gwaith go serfyll a wnaed yma y pryd hwn, gan fod yn angenrheidiol ei adnew- yddu mor gynted ag y'mhen tua deng mlynedd ar hugain ar ol hyny.G Canys yr ydym yn dar'len ddarfod i gorph yr Eglwys a'i cldochdý gael eu hadeilio dra- chefn yn y fl. 1532, sef yn nheyrnasiad ein cydwladwr Harri VIT. a phari ydoedd y Dr. Thomas Skeflìngton yn çsgob yno, yr ' Evans's Dcscription, p. 432. 2 Powcl's Walcs, 231. 3 ibid 433. * Pcnnaut's Tours, iii. 82, & 33r. 6 Evans's Description, p. 433. « MS. I- t'