Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y GWYLIEDYDD. Llyfr IX.] MEHBFIN, im± [IlHlF. 110. HANES BANGOR. Mynegir i ni mai Bangor yn Aufon yw yr Esgoble hynaf ym Mrydain. Hon a elwid yn Fangor* Fawr—yn Fangor Fawr yn Aullechwedd—ac yn Fangor Dduiniol, er mwyn ei gwahaniaethu oddiwrth Fangor Ddunod ar làn Dyfr- Uwy. Mor foreu a dechreuad y chweched ganrif, sefydlwyd yma athrofa ardderchog gan DüEiNioLfab Dunod Fawr, fab I'abo Ijost Brydain. A chyn pen hir cynnysg- aeddwyd y lle â braint esgobawl, gan Faelgwn Gwynedd, yr hwn hefyd a'i hanrhegodd â thiroedd a rhoddion mawr- ged tu ag at ei chynnaliaeth, gan beri hefyd i'r dywededig Ddliniol gael ei Urddo yn Esgob arni, drwy law Dyfrig Ueneurog, Archesgob Caerllëon-ar-Wysg. A'r Deiniol hwn a lanwodd y gadair Es- îîobawl hyd ddydd ei farwolaeth, yn y fl. 554, ac a gleddid yn Ynys EnlJi. Dywedir mai enw cyntefìg y lle hwn ydoedd Acaou; a thebygol roddi iddo yr enw Iiangor yn ganlyuol i ddinystr y Fyn- achlog nodedig o'r enw hwnw a fuasai yn flaenorol yn Is-y-Coed, yn Swydd y Fflint; Jmchweliad pa un a ddamweiniai tu a'r fl. G01. Ystyr yrenw^lcao/isydd anhawdd i'w ddehonglyd, yn gymmaint nas gwyddys pa gam ysgrifen o hono a ellid ei arferyd drwy garnbylni haneswyr anwybyddus o'r iaith. Nid analluadwy i'r cyn-enw ar- Wyddo Y-Cae-On, o herwydd fod yn dra thebygol fod yma mewn amseroedd cyn- narawl lwyn hardd-deg o goed Yn yn tyfu rhwng y bryniau; gan fod y coed hyny yn dra defnyddiol y'nghyfrif yr hen Frytan- iaid, y rhai a art'erent yn ngwneuthuriad eu harfau milwrol, eu gwaywffyn, eu bwâau, a'u saethau. A'r coed hyn pan y tyfent mewn lleoedd cynhes cysgodawl, . * Ystyr yr cn\i Bangor y\v l chel Gôr.i Sacs. Jliyh, ur Lhief Choir. MEHEFIN, 1832. fyddent yn fwy gwydnion na'r rhai a dyf- ent ar uchel-diroedd oer-noethion. Teb- ygol fod rhyw gyfeiriad at hynyma gan y rhyfelwr hyglod, Llywarch Hèn, yn ei Okw\nion, pan y cauai — " Gorwyn blacn On, hirwynion fyddant " Pan dyfant y'mlaen nant." Os gwrthddadleuant y beirniaid fod y gair Cae o ansawdd rhy ddiweddar i'w gymmeryd mewn enw mor foreuol, gellir ateb nad oes odid air mwy cyntefig ei ar- feriad y'mysg Brytaniaid, Llydawiaid, a Chernywiaid, yn enwedig os addefìr fod y gair Caer yn deillio o hono, yr hwn a ar- wydda le o amddiffyniad; ac felly Cae-On a ellid ei ystyried yn AmddifTynfa yr On- wydd C Ash-Fortification.) Dywed yr hanesydd Leland ddarfod i'r brenin Cunedda, yr hwn oedd yn byw 800 mlynedd cyn crêd, adeiladu ym Mangor deml i'r dduwies* Minerva; ond pa le y cawsai ef y cyfryw hanes, nis gwyddys. A'r hanesydd Enderbie a edrydd fod Cunedda yn llywodraethu Prydain yn rhanog â'i gefnder Morgan, ac yn eu hym- rafael â'u gilydd i Forgan gael ei ladd yn y lle a elwir o'r herwydd Margam, yn ngwlad Morganwg. A Chunedda, i dystio ei ddiolchgarwch i Ragluniaeth am ei lwyddiant, a adeiladai. ym Mherth, yn yr Alban, deml i'r geu-dduw Mawrth, gan osod ynddi offeiriad gweinyddol. Ac ar ei ddychweliad i Gymru, iddo fyned yn nghyd âg adeiladu un arall ym Mangor; ond i ba eilun, nis mynegir. Dyma 'r hanesion boreuaf sydd genyrn yn awr am Fangor, y rhai, os cywir ynt, sydd raid eu bod yn gyfoesawl â dyddiau yr Iuddewaidd brophwyd Esaia yn yr Js- rael, ac yn ílaenoiol i sylfaeniad dirif«s Rufain. • Leland'» Coll. dc Itcb. Eiit. Vol. II. V- 425.