Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y GWYLIEDYDD. Llyfr IX.] MAI, 1832. [Rhif. 109. COFIANT Y PARCH. CHRISTIAN FREDERIC SCHWARTZ. (Parhûd o du dal. 100 J Y meddyliau uchel iawn ag ydoedd pob gradd yn ddwyn am uniondeb a chywir- deb Mr. Schwartü a ymddengys oddiwrth yr lianos canlynol:— Pan oedd Amddiífynfa Tanjore, yn nghylch y pryd hyn, mewn cyni a chyf- yngder mawr, yr oedd gelyn galluog yn agos; a nifer y bobl yn yr Amddiííynfa (Fort) yn lluosog, a dim ymboríh i'w gael, hyd yn nod i'r milwyr. Yr oedd tligon o ýd yn y wlad ; ond nid oedd dim ychain i'w gludo i'r gwersyll. Pan y dygodd pobl y wlad betli iddynt o'r blaen, cawsant eu gormesu a'u hamddifadu o'r gyílog ag oedd yn ddyledus iddynt. O ganlyniad collwyd pob ymddiried. Rajah, brenin Tanjore, a orcbymynodd, 'ie, a ytn- biliodd ar y bobl, trwy ei swyddogion, i ddyfod a'u cynnorthwyo; ond yr oedd y cwbl yn ofer. O'r diwedd y Rajah a ddy- Wedodd wrth un o'r Jìoneddigion,—" Yr ydym oll, chwi a minna u, gwedi II wyr golli ymddiried y bobl, ceisiwn wybod a wna y trigolion yiuddiiied yn Mr. Schwartz." Yna efe a anfonodd ato, gan roddi awdur- dod iddo i wneuthur cytundeb addas â'r bobl. Nid oedd amser i oedi. Yr oedd yr heolydd yn cael eu gorchnddio bob boreu gan gyrph meirwon wedi curio o öewyn. Anfonodd Mr. Schwartz, gan hyny, lythyrau yn union-gyrchol oddi am- gylch, gan addaw talu i bob un o'i law ei hun, a thalu iddynt am bob ých a ddygid gan y gelyn. A chyn pen deu-ddydd cafodd fwy na mil o ychain. A thrwy y öioddion hyn yr achubwyd yr Amddilfynfa ddwy flynedd yn olynol. Ar ol i bob peth fyned drosodd, talodd Mr. Schwartz i'r bobl yn ol ei addewid, ac yna dychwelas- ant adref. Yr oedd rhinweddau y gwr enwog hwn mor ddisglaer, nes yr ydoedd y Paganiaid yn gorfod eu haddef. Ym- drechai i ddwyn ym mlaen ddedwyddwch mai, 1832. cyrph ac eneidiau pawb oddî amgylch iddo. Ond yr oedd ei lafur helaeth a llwyddiannus yn agoshau yn awr at ddiw- edd. Y llythyr canlynol, ym mhlith ereill, a ddengys ei hynod aeddfedrwydd i'r nef. " Tanjore, Ebrül 10, 1795. " Fy Anwyl Gyfeillion, " Gan i Mr. Kohlho(T roddi hanes i chwi o'i lwyddiant prescnnol, dywedaf ychydi5 am fy helynt fy hun. Yr ydwyf yn moli Duw am ei drugaredd i mi: ac er fy mod yn awr yn 09 oed, gallaf etto gyf- lawni gwaith cyffredin fy swydd. Ni wn i ond ycbydig ani afiechyd. Pa gyhyd yr wyf i aros yma, fy Nghreawdwr a'm Cyn- naliwr a ŵyr. Fy unig gysur sydd yn y prynedigaeth a wnaethpwyd trwy Iesu Grist. Efeydyw, ac a gaiíf fod, yn ddoeth- ineb i mi. Trwyddo ef y derbyniais y wyb- otlaeth iachusol a'm tywys i ffafr Duw. Efe ydyw fy nghyfiawnder; trwy ei Iawn y caf faddeuant o'ra pechodau; gwedi cael fy ngwisgo yn ei gyíiawnder ef, ni ddaw fy mhechodau yn fy erbyn yn y farn. Efe hefyd yw fy sancteiddrwydd; yneifywyd sanctaidd ef y dysgaf oreu ewyllys Duw ; a thrwy ei yspryd y câf yn feunyddiol fy annog a'm cadarnhau i íBeiddio pob pech- od, ac i rodio yn flbrdd gorchymynion Dnw. Efe yw, a gobeithiaf a fydd, fy mhrynedigaeth; trwyddo ef y'm gwaredir oddiwrth bob trueni, ac y'm gwneir yn dragywyddol hapus. Beth bynag yr ymflrostia ereill ynddo, nid ymffrostiaf fi mewn dim ond Iesu Grist, a hwnw wedi ei groeshoelio. " Pe gorphwyswn ar fy rhinwedd fy hun, byddai raid i mi yn fuan anobeithio. Er fy mod yn ewyllysio yn H'yddlon ufuddhau i Dduw, a chanlyn esampl fy Iachawdwr ; er fy mod yn ymdrechu yn wastadol, trwy ras Duw, i orcbfygu fy nhuedd i bechod;