Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y GWYLIEDYDD. Llyfr IX.] MAWRTH, 1832. [Rhif. 107. BYWGRAPHIAD Y DIWEDDAR BARCH. EDWARD DAVIES. CParhûd o du dal. 35.,) Gan ddarfod eisoes rhoddi olrheiniad byr o dreiglon boreuaf y gwr enwog hwn, hyd ei sefydliad yn Swydd Gaerloyw, deuwn ym mlaen i sylwi yn gynnwysfyr ar y rhelyw o'i ystod; ac yn fwyaf neill- duol weithian ar ei orchestion llëenyddol. Gadawsom ef yn cadw ysgol rammad- egol Chipping Sodbury, lle y parhâodd ei lafur hyd y flwyddyn 1779. Y pryd hwn, trwy deimlo galwedigaethau ei sefyllfa yn gorthrechu ei ansawdd corphorol, a'i iechyd yn adfeilio, a'i olwg yn gwanychu yn feunyddiol, nes yr ofnai i'w ddefnydd- ioldeb gael ei gwbl attal cyn cyrhaedd o hono ddim nodded eglwysig i gynnal gweddill ei hoedl. Yn y cyfyngder hwn cyflwynai ei g%vyn i'w hen gyfaill Mr. Theophilus Jones, yr hwn, o dosturi wrtho, a'i diddanai oreu y gallai, gan ym- egn'io yn ei achos hyd y dichonai, drwy eirioli drosto gyd âg esgobion Caerloyw a Thŷ Ddewi; ond yn seithug dros amser. Eithr caffai wrandawiad carueiddiach gan foneddwr dyngarawl a elwid George Hardinge, Yswain, yr hwn y pryd hwnw ydoedd brif ynad cylchdaith Brecheiniog. Ac yn y cyfamser dygwyddai ouradiaeth 01veston fod yn rhydd, a'i gais am dani a fu lwyddiannus; a chaífai feddiant o honi yn y flwyddyn grybwylledig, yr hyn a wnai ei amgylchiadau yn llawer mwy cysurus, ac a roddai iddo fwy o hamdden i ddilyn ei ddewisol fyfyrdod. Ac yn awr y mae 'n ddyledus dyfod i adrodd yn grynöaf ag y gellir, brif gamp- wriaethau Mr. Davies mewn llëenydd- iaeth, drwy ba rai y gwnai efe ei hun yn enwog ym mysg dysgedigion, ac yn dra haeddiannol o barch a diolchgarwch y byd Uëenyddawl yn gyíTredinol, a'i gyd- genedl ei hun yn neillduol. Mor foreu a'r blynyddoedd 1773—4, dechreuai ys- grifenu. Cyfansoddai amrywiol Emynau MAWRTH, 1832. Seis'nig, ac ambell un yn Gymraeg, fel y crybwyllwyd. Tu a'r un amser dechreuai gyfansoddi amrywiol draethodau pryd- yddol, ac yn eu plith rai cyfieithiadol. Ond yn y flwyddyn 1784, y daeth y gyfran gyntaf o'i waith yn gyhoedd mewn ar- graph. Hon ydoedd Ganiad Seis'nig, a alwai efe " Britannia," neu " Aphtharte, the Genius of Britain." Cyfansoddai hef- yd Ddiendraith chwaryddol, a alwai " Owen." A'r rhai hyn, drwy gael cym- meradwyaeth ei gyfaill dysgedig, y Parch. Richard Graves, a'i calonogai i fyned ym mlaen yn ei athrylith. Ac yn yr un flwyddyn argraphai ei ail gyhoeddiad a alwai " Yacunalia," yn cynnwys traeth- odau prydyddol ar wahanol destynau; yr olafohonynt yn gyfíeithiad o lyfr cyntaf y Temora o'r eiddo Ossian. Ynghylch y pryd hwn dygwyddai iddo ddamwain a fu yn dra ffodiawg tu ag at ei dueddu i ddwfn efrydiaw llëenyddiaeth Geltaeg. A hyny a fu gorug o drigolion Chipping Sodbury ei wawd-sènu, drwy haeru nad oedd y Gymraeg ond brygawth- eg ddiffaeth. Ac i wrtlisefyll y fath hòn- iad, efe a ymroddai yn ddyfalach fwy-fwy i chwilio i eithafíon ei phercelloedd. Ac i'r perwyl hwnw, niynych gyrchai i Gaer- odor i ymofyn am lyfrau o'r cyfryw an- soddau. Ac un tro cafodd y ffawd o daro wrth yr Arehceologia Britannica, o waith y Parch. Edward Llwyd, am yr hwn Iyfr ni wyddai ddim o'r blaen; a mawr oedd ei ddywenydd o'i gael, o herwydd ei fod yn cynnwys y fath ddefnyddiau ag oedd arno eu heisieu. Y gwaith hwnw hefyd a'i harweiniai i ddechreu chwilio i'r iaith Wyddelig yr un modd. Yn y flwyddyn 1792, ymgyflwynaì ei hun i sylw y Cymreigydd treiddgraff Mr. Wiliam Owain (yn awr y Dr. W. O. Pughe) a thrwy ddyfal ymohebiaeth â'r gwr hwnw, hogid ei awyddfryd yn awch- lymach fyth i dreiddio i ddyfnderau y Gymreigiaith. Dechreuai adysgrifio gwaith y Cynfeirdd allan o gyfysgrifau * Çàr /Kyj oectd J(r. P.Jfuyd-