Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y GWYLIEDYDD. Llyfr IX.] ÌONAWR, 1832. [Rhif. IOô. EFFEITHIAU Y GELFYDDYD O ARGRAPHU AR GYFLWR DYNOLRYW."* O'r holl gelfyddydau a hanfodant yn ein plith, nid oes un mewn defnyddioldeb yn rhagori, nag un yn ei hefl'eithiau yn lielaethach, na'r Gelfyddyd o Argraphu. Mae ei chyssylltiad â dysgeidiaeth, a'i thuedd i arledaenu gwybodaeth; a thrwy hynny i gryfhau y cynheddfau, addurno y ineddwl, a goleuo y dealltwriaethau dyn- ol, yn ei gwneulhur yn un o'r dyfeisiadau gogoneddusaf o ddychymmyg dyn. Mae gwedi bod o fawr wasanaeth, fel moddion, ì ddwyn oddi amgylch y diwygiad cref- yddol, neu y waredigaeth o Babyddiaeth i fwyniant purdeb yr efengyl: ac y mae yn parhau i gynnorthwyo y grefydd Gristion- ogol i daenu ar led ei bendithion iachuso', a chyflawni doeth a graslawn ddibenion yr Ior. Y mae yn cyfrannu yn helaeth tu ag at adfywio a pherflTeithio y celfyddydau, a gwellhau a dyrchafu cyflwr crefyddol, ínoesol, a llywodraethol y byd. Pwy a ddyfeisiodd y Gelfyddyd o Ar- graphu? ym mha flwyddyn y cafwyd hi allan ? ac ym mha ddinas y sefydlwyd hi gyntaf? ydynt ofyniadau tra dadleuedig ym rohlith y dysgedigion. Yn wir, fe'i cyff'elybir i enedigaeth Homer; canys fel yr ymrysonai dinasoedd Groeg am yr an- rhydedd o enedigaeth y prydydd, felly y gwna amryw o drefydd yr Almaen a Hol- land am yr anrhydedd o enedigaeth dy- feisiwr y Gelfyddyd hon. Rhy faith, ac afreidiol hefyd, fyddai ol- rhain y gwahanol dybiau a roddir ynghylch ei dyfeisiad a'i sefydliad cyntaf. Ni chaf, gan hynny, ond enwi rhai amgylchiadau perthynol iddi, ym mba rai y cyduna awd- wyr yn gyffredin. * Barnwyd y Traethawd hwn yn fuddugol ar Destun Çÿafiteig Coleg Dewi Sant, am y flwyddyn 1831. Gwcl Nodiad yn Hliil'yn Goiphenaf, 1831. tn ilil. 193. IONAWR, 1832. Y farn gyffredin ydyw mai yn Cliina y dyfeisiwyd yr Argraphwasg gyntaf; obleg- id y mae yn sicr ei bod mewn arferiad yno ym mhell cyn i'r Ewropiaid wybod dim am dani. Eu fí'ordd hwy o argraphu oedd torri cynllun y llythyrenau ar bren, a phwyso hwnnw ar yr hyn yr argraphent arno, a hynny ar un tu i'r ddalen. Yr ar- graphiadau cyntaf yn Ewrop oeddynt dra chyfíelyb iddynt; sef gwedi eu hargraphu ar un tu i'r ddalen yn unig, a hyny â Ilyth- yienau cerfiedig ar gyíhon o goed. Y di- wygiad, neu y gwellhad, a gymmerodd le gyntaf yn y ffbrdd hon o argraphu oedd uno y ddwy ochr wen ynghyd. A.c fel yr oedd y Gelfyddyd yn dynesu tu ag at ber- fi'eithrwydd, fe ddefnyddiwyd haiarn, a metteloedd eraill, am eu bod yn fwy par- haus na phren; ac argraph-lythyrenau symmudol yn lle llythyrenau cerfiedig ar un darn. A Ilais awdwyr yn gyff'redin yd- yw mai Ioan Faustue, a Phedr Schoefl'er, oeddent ddyfeisiwyry diwygiadau hyn, yn Mentz, yn yr Almaen, oddeutu y flwyddyn 1440. A'r cyfryw ddiwygiadau a wnaeth- ant i'r Gelfyddyd ragori cymmaint ar yr hyn oedd o'r blaen, nes ydyw Faustus, Schoeffer, ac, fel yr ychwanega rhai, Gutenberg, wedi ennill y clod o fod yn ddyfeiswyr y Gelfy'ddyd o Argraphu. Awdwyr a roddant hefyd yr hanesyn canlynol, yn gyffredin yn gyssylltiedig à hanes cynnydd y Gelfyddyd o Argraphu:— sef i'r Faustus uchod argraphu nifer mawr o Fiblau, a myned i'w gwerthu i Paris fel ysgrif-lyfrau; ac iddo eu gwerthu, y tro cyntaf, am oddeutu 500 o goronau, y symiau a arferid dalu i'r ysgrifenyddion ; ac wedi hynny iddo ostwng eu pris gym- maint, nes o'r diwedd iddo eu gwerthu am 30, er braw a mawr syndod i bawb; ac iddo gael ei garcharu yn Paris, o herwydd