Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y GWYLIEDYDD. UHAGFYR, I83J CWIW-COFIAWT AM Y T'ARCHEDIG JOHN JENRINS, A. C. (Parhad o du dalen 308.J Yn y fl. 1823, ar gylch-wyl ei enedigaeth, sef yr 8fed o Ebrill, efe a briododd Miss Elizabeth Jones, ail ferch y Parchedig Edward Jones, Vicar Aberiw, a nith ac etifeddes y diweddar Edward Heyward, Ysw. o'r Crosswood (Trawsgoed) gerllaw y Trallwng. Yr hyn a ennillodd ei serch ef atti yn ddechreuol, oedd ei medrusrwydd yn cyfansoddi barddoniaeth Saesneg; ac ar bryd- iau hi a anturiai bryddest Gym- raeg. Hi yw y brif Ofyddes, yr unig ferch a raddwyd ar gyhoedd Eisteddfod Caerfyrddin, yn y fl. 1819. Ym mhen ennyd aeth y graddau hyn yn giprys, pan gyn- helid Gorseddau annghyhoedd u ar bob bryn uchel, a than bob pren irlas." Ar y 4ydd o Ebrill 1824, y gan- wyd i Mr. J. ei unig fab a'i etifedd, yr hwn a fedyddiwyd dan yr enw John Heyward Jenkins. Bardtl o'r gymmydogaeth a gymmerodd yr Ifor bychan yn ei freichiau pan oedd yn bymthegnos oed, ac, yn ol dull yr hen Dderwyddon yn Nhri- banau Marchwîail ac Eiry Mynydd, a gant Dribanau Cain Cynnwyre uwch ei ben: dau o honynt ar gof a chadw fel hyn—(yr haul yn tÿ« wynu yn eglur ar ei gocìiad) RHAGFYR, 18'3.1. Caiu Cynnwyre Dandde 'r Dydd Ehed yn uwch hyd yn Echwydd— Ifor bttclt yn fawr y bydd: Yn perchen Awen lawen lem, AnWyî fo, yn ail i'w Fam, Ac ail i'w Dad, heb giliaw dim. Yn ol pob argoel, ond yn ddaros- tyngedig i ragluniaeth y Pen-Ar- glwyddiaethydd, y mae ein Ifor ieuangc yn debyg o gyflawni dy- maniad ei Fardd: y mae efe eisoes mewn athrofa yn Swydd Amwyth- ig yn yfed o flrwd ííynnon gwybod- aeth. Yn ei oriau hamddenol, yn nghyfryngau ei orchwylion oífeir- iadawl, Mr. J. a fyfyriai ar byngc- iau dyrys yn hynalìaeth ei wlad. Eidraethodau ar Garon (Carausius yr hanesiaeth Ithnfeinig) qr Aedan ab Blegywryd, tyẃysog Gwynedd, pwy oedd efe? (gan na wyddai y dysgedig Dr. Powel) ac ar destun- au eraill, a ymddangosasant yn y Cambrian Quarterly Magazinc. Ei lythyrau, dan enw fíooìter a lanw- asant rai dalenau yn y G wyliodydd: a phregeth o'r eiddo a draddododd ger bron Cymdeithas Eglwysig Dyfed, a gyhoeddwyd. Bu Mr. J. hefyd yn ddiwyd yn ei amser i gasglu ynghyd yr holl donau Cymreig a í'edrai afaclu ar- nynt, gan eu trysori yn ei nod- lyírau. Blin oedd ganddo sylwi bod y tonaú Cymreig yn caeí eu traws wyraw o'u cyfansoddiad cyn- nwynawl, i foddio clustiau merwin- x x