Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y GWYLIEDYDD. TACHWEDD, 1831. GWIW-COFIATffT AM Y PABCHEDIG JOHN JENMNS, A. C. DIWEDDAR BERIGLAWR CERI, YN SWYDD TREFALDWYN, &C. &C. YR HWN A F(J FARW TACHWEDD 20, 1829, YN 59 OED. • Cydymmaith a gâr bob amser."—Selyf ddoeth. Testun y Cofiant hwn a anwyd yr 8fed o Ebrill 1770, ac a oedd ail fab o chwech i Mr. Gruffydd Jen- lcinso Gil-bronau, Plwy Llan Goed- mor, gerllaw tref Aber Teifi. Y mab hynaf a fu farw yn faban, ac ar hynny yr ail a gyfrifwyd yn deis- ban-teulu i etifeddu treftadaeth ei hynafiaid. Cafodd ei egwyddori yn yr ieithoedd mewn ysgol gym- mydogol, ac wedi iddo gyrhaedd oedran cymmhwys, anfonodd ei fam weddw ef i brif-ysgol Caerfyrddin. Yn y fl. 1789 derbyniwyd ef yn aelod o Goleg yr lesu yn Rhyd- ychain, a chyn pen hir symudodd i Goleg Merton. Ym mhen yr ys- paid arferol, graddwyd ef yn Ẅyryf yn y Celfyddydau (A. B.). Yn yr un flwyddyn (1791) tan nodded ei ewythr, Dr. Lewis, Periglawr Whippingham yn Ynys Wyth(Isle of Wight) urddwyd ef yn Ddiacon ac yn Offeiriad drwy hawl i Gurad- aeth y Plwyf hwnnw. Ba yno yn gweinyddu gyda difrifoldeb a dwys deimlad o fawrbwys ei swydd dros chwe blynedd. Yn y fl. 1799 new- idiodd ei sefyllfa ar y tir i wein- yddu ar y môr, yn Gapelydd ar y ílong ryfel, Agincourt, gorsaf yr hon TACHWEDD, 1831. oedd yn y llynges warchadawl ar gyfliniau yr India Orllewinol. Y prif-lyngesydd oedd yr Anrhyd- eddus William Waldegrave, ail fab i John, ail Iarll Waldegravc, a chefnder i fam y ddiweddar Henri- etta, Iarlles Powys. Ynghorph yr un flwyddyn dyrchafwyd y llyng- esydd yn Arglwydd Radstocic, er gwobrwyo ei wroldeb a'i ymddyg- iad mewn amryw frwydrau, St. Vincent, yn y fl. 1797, ac eraill. Yn Mawrth 1802 symudodd Mr. J. oddiar fwrdd yr Agincourt i'r Theseus, yr hon ymhlith eraill oedd yn gwylio Ynys Jamaica, a bu ar lion hyd fis Gorphenhaf 1804. Yn y cyfamser yr oedd y Vad Velen ( Yelfow fever) wedi gwneyd galan- astra dirfawr ym mhlith y llong- luoedd. Mr. J. oedd yruníg Gap- elydd a adawodd rhagluniaeth i sef- yll ei fôr; gan fod ei frodyr Gapel- yddion naill ai wedi marw, ai symud oddiyno i hinsoddau mwy tymherus. Yn y fl. 1804 y bu lladdfa echryd- us ar drigolion gwynion Cape Fran- cis, yn ynys Domingo, gan y Duant- wys, y rhai a wrthryfelasent, ac a gymmerasent feddiant o'r Ynys oludog honno. Ar y trydydd dydd gwedi y gyflafan, anturiodd Mr. J. gyd âg un Muddle (Is Gadben) i'r Ynys Domingo, ac at y traws-lyw- ydd du a enwid De-Salines, i gyng- reiriaw ac i eirìol am fywydau y gweddill a adawyd o'r trigolion gwynion mewn parthau eraill o'r Ynys. Aeth y ddau hyd breswyl- R r