Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

.- Y GWYLIEDYDD. . . - ---- " ' . j HYDREF, 1831. - , . STWESB PREGETH. Heb. xi. 5. " Trwy Ifydd y symudwyd Enoch, fel na welai farwolaeth; ac ni chaed ef, am ddarfod i Ddu w ci syìinid ef: canys cyn ei symud, efe a gawsai dyst- iolaeth, ddarfod iddo ryngu bodd Dúw." Nid yw yrapostol, yn y bennod hon, yn cymmeryd arno draethu am yr holl dduwiolion a fuant fyw yn oesoedd boreuol y byd, ond y mae yn enwi y rhai enwocaf o honynt. Y nesaf a grybwyllir ydyw Enoch. Gallwn feddwl bod llawer o feibion Seth yn enwog mewn duwioldeb; ond eu hiliog- aeth wedi hyny a ymgymmysgas- ant â hiliogaeth ddrygionus Cain, ac a ddysgasant eu gweithredoedd hwynt, nes aeth y byd yn hollol lygredig. Oddeutu yr amser hyn yr oedd Enoch yn byw, cyn y di- luw mawr, yr hwn a foddodd y byd annuwiol. Cymmeraf achlysur i sylwi ar y pethau canlynol; 1. Hanes Enoch. —2. Addysgiadau oddiwrth hyny. —3. Enoch yn gysgod o Grist. I. Hanes Enoch. 1. Efe oedd fab i Jered. Gan- wyd ef ynghylch y flwyddyn o oed y byd 622; ac felly yr oedd yn cyd-oesi âg Adda am 308 o flyn- yddoedd, ac yn ddiammeu addysg- odd ganddo yr hyn oli a wyddai am Dduw, am y greadigaeth, am y cwymp, ac am yr.addewid o Had y Ẅraig. Efe oedd tad Methuse- íah, yr hynaf o'r holl ddynion. hydref, 1831. 2. Efe a rodiodd gyda Duw. Bu fyw yn gysson inewn cym- deithas felus â Duw, ac mewn ufudd-dod iddo; er fod y rhan fwyaf o'r byd yn rhodio mewn drygioni, ac yn addfedu i ddinystr. 3. Efe oedd y cynlaf y sonir am dano a bregethodd y farn. Pro- phwydodd am ail ddyfodiad Crist mewn gallu a gogoniant mawr, dros dair mil o flynyddoedd oyn ei ddy- fodiad cyntaf yn ei ddarostyngiad mewn dynol gnawd. " Ac Enoch hefyd, y seithfed o Adda, a bro- phwydodd am y rhai hyn, gan ddywedyd, Welé, y mae yr Är- glwydd yn dyfod gyda myrddiwn o'i saint, i wneuthur barn yn erbyn pawb, ac i lwyr-argyhooddi yr holl rai annuwioi o honynt am holl weithredoedd eu hannuwioldeb, y rhai a wnaethant hwy yn annuw- iol, ac am yr holl eiriau caledion, y rhai a lefarodd pechaduriaid an- nuwiol yn ei erbyn ef." Juda» 14, lö. 4. jBfe a gafodd dystiolaeth ddarfod iddo ryngu bodd Duw. Cafodd dystiolaeth yn ei gydwyb- od, ei fod yn gymmeradwy yn ngolwg Duw; ac yr oedd pawb yn cael eu hargyhoeddi mai gwr Duw ydoedd hwn. 5. Ei symudiad. Wedi iddo rodio gyda Duw trwy ffydd 365 o flynyddoedd, Duw a'i cymmerodd ef i'r nefoedd heb farw; ac ni chaed ef: nid oedd modd i'w elyn- N n