Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

. . . . Y GWYLIEDYDD. MEDJ, 1831. BTWGHAFHIAD MR. RICHARD WILSON, Y JJarhmiedydd Arbeiawl. "YNmhob gwlad ymegirglew," öiedd y ddiareb; a phwy a feiddia haeru mai ychydig fu nifer y glew- ogion a fagodd Cymru? Ac fel y mae pob ardal yn chwannog o ym- iirostio yn yr enrhydedd o roddi genedigaetb i enwogiou, pa un byn- ag ai mewn dawn, dysg, ai dewr- der; felly y mae Swydd Dref Faldwyn yn falch ac yn awyddus i hòni ei hawl deg i'r bri o roddi gen- edigaeth i wrthddrych hyglod y cofiant canlynol: digoned i'r Ffliut gael o honi yr enrhydedd o roddi iddo letty clýd i huno hirnos angeu. Pwy aethai i Ben Machno—i Lan- Fihangel-Tre'r-Beirdd—neu i Lan- Fair-Mathafarn-Eithaf, i chwilio am egin y fath wýr a'r Esgob Mor- gan, Lewis Morys, a Goronwy Owain? A phwy a aethai i ben- tref Pen-Egos, gerllaw y Machyn- Haith, i chwilio am eginyn y fath ŵr a Richard Wilson y Darlunied- ydd? Ond mai dyna ei encdigfan, mae genym sail gadarn i gredu, er fod gwrth-haerwýr, ac er nad y w ei fedyddiad yn awr i'w gael yn nghof- lyfrau adfeiliedig y lle. Etto cym- incrir tystiolaeth y Dr. Abraham Hhÿs, yr hwn ydoedd briodor o un o'r plwyfi nesaf, sef Llan-bryn- Mair, yn awdurdod digonol i brofi y peth. medi, 1831. Hichard Wilson a anwyd yn y flwyddyn 1714, ac ydocdd drydydd mab y Parch. John Wilson, Per- iglawr Gwaun-Yscar, yn Swydd y Fflint, a Phen-Egos, yn Swydd Dref Faldwyn, yr hwn a fu farw yu y lle' olaf ar yr 31ain o Awst, 1728, ac a gladdwyd yn Nhref-Eglwys, fel yr ardystia côf-lyfr Pen-Egos. Yn ei febyd, cafodd Ricbard ddysgeidiaeth dda uchraddol (clas- sical); ond cefnodd ar wlad ei enedigaeth yn dra chynnar oddiar yr achlysuron a grybwyllir rhagr ílaw. Yn foreu iawn rhoddodd arwyddion amlwg beth oedd ei athrylith gynnwynol, yr byn a ar- dystiai muriau preswyl, a maen* gloddiau tyddyn ei dad, y rhai a wnaethid o lech-feini llydain bro Bumlumon, ac a orchuddiai Rich- ard â darluniau, gan arferyd go- losgwydd yn lle pwyntel. Mor grêf oedd ei grêth, ac amcanus ei ddarmerth yn hyn, fel yr ennillodd Bylw ei gâr Syr George Wynn, yr hwn a gynghorai ei dad i roddi i'r Darluniedydd ieuanc gyfleusdra i feithrin ei athrylith. Ac â hyny y cydsyniodd y Periglawr; ac yn y flwyddyn y bu farw (1728) aeth Richard i Lundain dan nawdd Syr George. Ond drwy ryw anffawd, dy- gwyddodd iddo gael ei roddi at athraw carnbwl o'r enw Wright, ar- felydd anghenus analluog i addysgu cynreolau y gelfyddyd, yr hyn an- i i