Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

52 Achau Teulu Cefn Lhtnfair. gwyddant ddim o lioni, nac o'r iaith y gweinyddir hi ynddi; ac y maent mor ddarostyngedig i'r gosp am ei throseddu ag ydyw y rhai a'i gwyddant hi oreu, er i'r naill ei throseddu heb wybod, a'r llall trwy wybod. Ac, yn wir, ni waeth i ni ofyn i'r Pab am ddirgelwch ei gref- ydd, neu i'r physygwr am ddcfnydd ei gyíleri, na cheisio ein dysgu yn y gyfraith gan y Cymry a'i gwydd- ant hi; oblegid eu gwybodaeth hwy, a'n hanwybodaeth ninuau, o honi, yw eu dyrchafîad hwy, a'n darostyngiad ninnau. Gan hyny, Syr, meiddiaf ot'yn, yn ostyngedig, a wnewch chwi, gyd á'ch Goheb- wyr dysgedig adyngarol, gyhoeddi dernyn o'r gyfraith y'mhob Rhifyn o'ch Cylchgrawn buddiol? Mae pob rhan o'ch Cyhoeddiad yn hoií' a derbyniol. Rhyfedd yw hanes ?! Gefeilliaid Siam;" difyrus yw gwybod *' Poblogaeth y byd;" ath- rawus a godidog yw y '• Ddarlüh ar Fwnai" a'r " Araithar y Dderw- en yn Ngwig Wynnstay;" heblaw amryw íelysion ereiil ynddi, hi a rydd gyfarwyddyd mawr i'r achwr olrhain gwaedoliaeth Syr Watcyn W. Wynn, yr hwn waed a ddylif- odd trwy galon Gruífydd ab Cynan ab Iago ab Idwal, &c. Tywysog Gwynedd, coleddwr Beirdd a Barddoniaeth Gymreig, a thrwy wythi ei fab, Owen Gwynedd, a ilodri, Arglwydd Môn, Caradog, Gruöydd, Dafydd, Howel, Mered- ydd, Robert, Ieuan o Gesailgyf- arch, Meredydd Wynn ab Ieuan o'r Gesail, a fagwyd yn y Crug, adeiladydd Penamnen yn Nolydd- elen, a Gwydir,* gerllaw Llanrwst, * Gwydir yw gwir enw y lle, oblegid y byddai afon Gonwy yn llifp dros y dolydd, gan gludeirio gyda hi weiriau, ydau, a choed, " A'u noliad yn efrydd o Gonwy i fôr Gwerydd," fel y dywedai Merddin ap Morfryn; ac felly y mae hi etto, ar lif- ddyfroedd mawrion, er maint a glodd- iwyd. Gallasai Gwerfylyn hepcor y gair " Gwaedir." Ni's gwn pa un ai Gwae- «lir, ai Gwaed-ir, a feddylia ef. Míd oes Syr John Wynn, Syr Robert, a William Wynn, Gwydir, a thrwy y cyfryngau a soniai Gwerfylyn i wytheni Syr Watcyn W. Wynn, a'i fab. Ond er mor ddifyrus yw gwybod pethau fel hyn, llawer gwerthfawrocach i ni wybod, yn gyntaf, y niodd i ymddwyn tu ag at ein gilydd yn ol cyfraith ein gwlad; a hyderaf y bydd i chwi a'ch Gohebwyr gwladgarawl ein cyfar» wyddo i'w gwybod, trwy gyhoeddi, o dro i dro, ranau o honi yn eich Rhifynau misol. Ac, yn gyntaf, dymunaf wybod, pa fodd y mae i mi ymddwyn yn deg a chyfiawn, yn ol y gyfraith, ataf fy hun, ac at fy nghymmydog, yr hwn sydd yn nacâu talu deunaw swllt ar hugain ay ddyledus arno imi? Ac at nn arall sydd arno i mi dair punt a deg swllt? Ac at un arall sydd yn byw mewn tý i mi, ac yn nacâu talu i mi am ytý? Ac at ddyn arall yn byw mewn tý i mi, ac yn nacàu ymadael o'r tý, er i mi ei rybuddio yn brydlawn i ymadael? Iarddur. Arllechwedd, Swydd Gaerynarfon, B.hagfyr2\, 1830. ACHAU TEULU CEFN LLANPAIR YN LLEYN, SWYDD GAERYNARFON. Huw ap Huw, ap Rhys, ap Huw, ap Gruffydd, ap Huw, ap Rhisiart, ap Dafydd, ap Llywelyn, ap Cyn- frig, ap Bleddyn, ap Ifan, ap Cyn- frig Fychan, ap Cadwgan, ap Liy- warch Fychan, ap Llywarch Goch, ap Llywarch Howlbwrch, ap Pill, ap Cenau, ap Einion, ap Gwrydr, ap Helig, ap Glanog, ap Gwgan, ap Caradog, ap Llýr Merini, ap Einion Yrth, ap Cynedda Wledig, sail i'w alw ef yn " Waettir," fel yr ar- ferwyd gan rai; canys Gwy-dir oedd ac y w ei enw.