Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y GWYLIEDYDD. MEDÍ, 1827. SÝLWIADAÜ AR Heb. xiii. 8. (Parhad o du dal. 196>y) Jr e ddarfu i Dduw, o'i diriondeb a'i ras anfeidrol, ei amlygu ei hun i'r ffyddloniaid, ym mhob oes o'r byd, niewn llawer dull a modd. Ond pan ddaeth cyflawnder yr am- ser a drefnasid yn yr arfaeth, ac a ragddywedasid gan Daniel y pro- phwyd, Duw a anfonodd ei Fab ei hun, ei unig-anedig Fab, i'r byd, i foddloni ei gyfiawnder ef, trwy gadw y gyfraith i gyd, a marw yn lle troseddwyr y gyíraith; ac hefyd i ddysgu i ddynion ewyllys Duw, ac i roddi cynllun perffaith o fuch- edd sanctaidd. Wrth ystyried y gair heddyw yn yr adnod yr ydym yn sylwi arni, bydded i ni olygu, yn IV. Iianes yr lesu yn amser ei gnawdoliaeth ar y ddaear. Yr Efengylwr loan, ar ol ysgrif- ennu yn helaeth am ei Arglwydd, a ddywed, " Y mae hefyd lawer o bethau eraill a wnaeth yr Iesu, y Ẁai, ped ysgrifenid hwy bob yn un ac un, nid wyf yn tybied y cyn- nwysai y byd y llyfrau a ysgrifen- id;" (Ioan 21. 25.) ac ni cheisiaf finnau ddilyn y pedwar Efengylwr sanctaidd yn yr holl bethau rhagor- olà ddywedasant am yr Arglwydd lesu; ond ymegniaf i osod allan, ar fyrr eiriau, rai o'r pethau mwyaf hynod, gan ddymuno ar i'r Yspryd Glân ein goleuo i fyfyrio ar ei fyw- yd pur, a'i angau poenus, er adeil- MEDI, 1827. adaeth ein heneidiau, fel y cerddom lwybrau ffŷdd Iesu hyd ddiwedd ein hoes. Ystyriwn, 1. Y pethau a berth- ynant i enedigaeth ac ieuengctid yr Iesu. Ei lân gnawdoliaeth. Efe a gen- hedlwyd gan yr Yspryd Glán o forwyn a'i henw Mair, yr hon a ddyweddiasid yn wraig i Joseph; ond cyn eu dyfod hwy ynghyd, hi a gafwyd yn feichiog o'r Yspryd Glân. Felly, yr oedd ein Har- glwydd i fod yn Dduw ac yn ddyn, ond yn un Crist. Dyma ddirgel- wch diwaelod wedi ei weithredu er iachawdwriaeth pechadur euog, ac er gogoniant y Duw Goruchaf. Ei sanctaidd enedigaeth. Mewn l'le tlawd ac isei, o fam dlawd ac isel o ran golud daearol, ac mewn byd pechadurus, y ganwyd yr Ar- glwydd Iesu; ond er hynny yr oedd eí enedigaeth yn sanctaidd: canys efe a anwyd yn sanctaidd, ac yn hoìlol ddibechod; augylion sanctaidd y nef a gyhoeddasant y newyddion da; a dynion sanctaidd a ddaethant o'r dwyrain i offrymu rhoddion, ac i addoii ÿ Baban Dwyfol. Ei enwaediad. Ar yr wythfed dydd ar ol ei enedigaeth efe a gaf- odd ei enwaedu, yn ol ordinhad yr eglwys Iuddewig; a galwyd ei enw ef IESU, sef Gwaredwr. Ei gyflẅyniad yn y deml. Pan oedd yr lesu yn ddeugain niwmod oed, efe a ddygwyd i'r deml i'w K k