Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y ' GWYLIEDYDD. GORPHENAF, 1827. SYLWIADAU AR Heb. xiii. 8. (Parhad ó du dal. 168.> Jtan yr adroddir neu y darllenir hanes rhyw frenhin neu dywysog enwog a galluog, bydd pawb yn dyfal wrandaw, gan ryfeddu wrth fawredd ei orchestion a'i nerth.—- Bydded i ninnau, wrth fyfyrio ar ardderchogrwydd Iesu Grist, yr hwn sydd Frenhin brenhinoedd ac Arglwydd arglwyddi, ryfeddu wrth anfeidroldeb ei allu, harddwch ei Berson, a gogoniant ei frenhiniaeth. Eilwaith, pan ddarllenom hanes bywyd a marwolaeth un o'n cyf- eillion anwylaf, dagrau o gariad a ddylifant, ein calon a feddalheir, a melus fydd y cofiant am dano. Na fyddwn, ynte, yn oeraidd nac yn ddigyffro (fel yr ydym yn rhy chwannog i fod) wrth ddarllain am yr hyn a wnaeth ein Prynwr cu, yr hwn ni charodd ei einioes hyd angau, ond a dywalltodd ei werth- fawr waed er ein hachub. O Yspryd Sanctaidd! yr hwn y *nae yn rhan o'th swydd gymmeryd ° bethau yr lesu a'u dangos i'r duwiolion, agor ein calonnau nin- üau, fel y dysgom bethau gogon- eddus am Fab Duw; fel y credom ynddo er cadwedigaeth ein heneid- îau; ac fel y'n cyfnewidier yn hollol ar ei ddelw ef mewn cyíìawnder a g^ir sancteiddrwydd. Dywed yr Apostol am Iesu Grist, mai yr un ydyw " ddoe, a GORPHENAF, 1827. heddyw, ac yn dragywydd.'' Oddi wrth y tri gair diweddaf yma mi a gymmeraf achlysur i sôn am dano ar dri golwg o'i hanfod anfeidrol* Dan y gair ddoe cawn ystyried, III. Gwaith Crist er tragywydd~ oldeb hyd ei ymddangosiad yn y cnawd. Diau fod y rhan yma o'n myfyr- dodau yn ddofn iawn; ond ni a allwn gasglu o'r Ýsgrythyr Lân y pethau eanlynol, fel y byddo i ni, os gwel Duw yn dda ein goleuoi ganfod ychydig o'r gogoniant oedd i Grist gyd â'r Tad cyn bod y byd. Ioan 17. 5. 1. Bod Crist er tragywyddoldeb* " Y mae efe cyn pob peth." Col. 1. 17. Gyn gwneuthur y ddaear a'r môr, cyn trefnu lluoedd disglaer yr wybren, a chyn creu angylion cedyrn y goleuni, yr oedd Crist, ein Harglwydd ni, yn bod mewn gogoniant digrëedig a di* ddechreu. Yr oedd efe er tragywyddoldeb yn wir Ddmv. Yn nechreu y llyfr yr ysgrifenwyd am dano fel hyn, " Yn y dechreuad yr oedd y Gair# a'r Gair oedd gyda Duw, a Duw oedd y Gair. Ioan 1.1. Ac yn yr Epistol at yr Hebreaid fe gymmerir geiriau o Salm 45. 6. ac fe a'u cym- hwysir at Grist; " Dy orsedd- faingc di, O Dduw, sydd yn oes oesoedd." Heb. 1. 8. Y mae hyn yn eglur brofî Duwdod Crist. Yr oedd efe er tragywyddoldeb yn Fab Dmo. Crist a elwir ya b b