Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

MAI, 1827. SYLWÎADAU AR Hèb. liii; 8. " Iesu Grist, ddoe a heddyw yr un, àc ÿn dragywydd." x mae îneddyliau plant dyniön yn chwannog i redeg ar ol oferedd y byd presennol, yr hwn sydd yn myned heibio, a'i chwant hefyd. Yn ẅir y mae yn rhaid i bobl yr Arglẅydd eu hunain gyfaddef fod eu myfyrdodau yn rhy fynych am bethaü amser^ yn lle am bethau tragywyddoldeb; am y ddinas nad yw barhaus, yn lle am y ddinas ag iddi sylfeini; ac am wrthddrychau diflanedig y ddaear, yn lle am Wrthddrych mawr tragywyddol eu Serch a'U hymddiried. Gan hynny, yr awr hon, dyrchafér ein heneid- iau, trwy anadliad yr Yspryd Glân, i fyfyrio ar y Gwrthddrych gogon- eddus a osodir o'n blaen, sef lesu Grist, yr hwn sydd ddoe a heddyw yr un, ac yn dragywydd. Er mwyn gwneuthur defnydd íheolaidd o'r geiriau sy dan ein 8ylw, ni a ystyriwn, I. Yr enw Iesu. O ran ystyr llythyrenol y gair lesu, yr un ydyw a Josua, yr hwn sydd yn arwyddoccâu Iachawdwr, Gwaredwr, neu Geidwad; ac yn ttghysgod Josua gallwn weled Ièsu: ^anys, megis ag y dug Josua blant Israel i orchfygu eu gelynion; feHy y mae Iesu yn arwain ei bobl, y gwir Israel, i oresgyn eu gelynion MAi, 1827. ysprydol, äc i gymmeryd meddiaáí o'r deyrnas a barottowyd iddynt er seiliad y bydi Wrth edrych ar Iesu fel Iach- awdwr a Gwaredwr, ystyriwn, pa fath Waredwr ydyw—rhag pa beth y mae yn gwaredu—a phwy y mae yn eu gwaredu. 1. Pafath Wáredwr ydyw Iesu. Y mae yn Waredwr Hollalluog» " Y Duw cadarn" yw efe; (Esa. 9. 6.) a chan ei fod yn Dduw, y mae yn rhaid ei fod yn hollalluog. " Trwyddo ef y gwnaethpwyd pob peth," (Ioan 1. D.J y nefoedd a'r ddaear; y pìanhigionoll; ycreadur- iaid byw, a'r y sydd yn ymsymmud ar y tir, yn nofio yn y dyfroedd, ac yn ehedeg trwy yr awyr; a chyrph ac eneidiau dynion: ac y mae efe yn un mor alluog i waredu yr eneid- iau a greodd. Y mae yn Waredwr tmgarog. Yr Apostol, wrth ysgrifennu at yr Hebreaid, a hyspysa hyn, " Canys ni cbymmerodd efe naturiaeth ang- ylion; eithr had Abraham a gym- merodd efe. Am ba achos y dylai efe ym mhob peth fod yn gyffelyb i'w frodyr; fel y byddai drugarog." Heb. 2.16,17. Pryd nad oedd un fíbrdd arall i achub dynolryw rhag colledigaeth anesgor, Mab Duw a drugarhaodd wrthym, ac a gym- merodd arno einnaturni. Y gweith- redoedd mawrion a wnaeth efe yu y byd, gweithredoedd o drugaredd at ddyn oeddynt; ac y mae ei dru^ garedd ef etto yn parhau, a hi a