Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

\I SEF, CYLCHGRAWN CYMREIG. RHAGFYTR, 1825. BUCHEDDAU ENWOGION YR EGLWYS. " Nac ofnwc-h y rhai sydd yn lladd y rórph, ac wedi hynny heb ganddynt ddim rnwy ì'w wncnthtir: ond rliag-dd«ngosaf i chwi pwy a ofnwih ; Ofiiwch yr liwn, wedi y durff'o ìddo ladd, sydd âg awdurdod gauddo i fwrw i uffern; Ye, meddaf i ehwi, iíwnnw a ofuwch." HANES YR ESGOB RIDLEY. (Parhad o du dal. 323.,) .ynegwyd 'eisoes yn hanes y merthyr Latimer rai o amgylchiadau dienyddiad Ridley, ac nid oes achos eu hail-adrodd yma. Ridley oedd y cy.ntaf a ddaeth at bawl y dienyddiad. Wedi iddynt gyfarch eu gilydd, gostwng ar eu gliniau a wnaethant ill dau, a gweddîo yn daer ar Dduw. Cododd un Dr. Smith, yr hwn oedd ei hun yn wrthgihwr oddiwrth y ííydd Brotes- tanaidd, i bregethu; yr hyn a wnaeth efe mewn ff'ordd enllibns iawn. Rhodd- aaant iddo wrandawiad dyfal, ac yna deisyfodd Ridley, er mwyn Crist, gael cennad i'w atteb. Hyn a naccawyd yn bendant iddo, a chauodd rhai o'r otíeiriaid ei enau; eithr yr un pryd cynnygiasant ei fywyd iddo, os efe a newidiai ei grefydd. " Wel," eb yntau, " tra bo chwythad yn fy nghorph, ni wadaf fi byth fy Arglwydd Gnst a'i wÌTÌonedd." Ac yn y fan, cododd i fynu, a dywedodd â llais uchel, " Yr wyf fi yn ymddiried fy achos i'r Hollaíluog, yr Hwn a farna bawb yn ddiduedd." Ar hynny gorchymynwyd iddynt ymbarottoi a diosg eu gwisgoedd, yr RHAGFYR, 1825, hyn a wnaethant gyda phob lledneis» rwydd. Rhoddodd Ridley rai o'i ddilîad i'w frawd yn nghyt'raith, a'r lleill, neu ddarnau bychain oarian, i'w gyfeiliion eraill, y rhai ni fedrenl ym- attal â dagrau. Gwyneifyd y tybiai pob un ei hun, yr hwn a dderbyniai y cerpyn lleiaf ganddo. Wedi ei gwbl ddiosg, safodd Ridley yn union-syth w.rth y pawi, a llefodd allan, " Mawr ddiolchaf i Ti, Dad nefol, am alw o honot fi i broffesu dy wirionedd hyd at farwolaeth. Trugarha, 0 Arglwydd Dduw, wrth wladwriaeth Lloegr, a gwared bi oddiwrth ei holl elynion."— Nid hir y bu y wlad heb brofi, megis y profwn ninnau hyd y dydd hwn, mai llawer a ddichon taer weddi y cyfiawn. Bu farw Latimer yn fuan; eithr ar- teithiau Ridley oeddynt dost iawn, o herwydd llosgwyd ei gyromalau isaf cyn i'r tân gyrhaedd ei yrnysgaroedd. Yn ei holl boen ni pheidiodd er hyn- ny a galw ar Dduw, gan ddywedyd, " Arglwydd, trugarha wrthyf;" ac weithiau, ** Gadewch i'r tâu ddynesu attaf, ni allaf fi losgi." O'r diwedd deallwyd ei ddymumad, symmudwyd yr ysgyrrion oedd rhyngddo ef a'r tân, ac yn fuan iawn ele a syrthiodd yn farw wrth ochr corph niarwol ei hy- barch gyd-ferthyr. Xx