Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

GWYLIEDYDD; SEF, CYLCHGRAWN CYMREIG, GORPHENAF, 1825. BUCHEDDAÜ ENWOGÎON YR EGLWYS. *' Mi a ymdrechais ymdrcch dêg, mi a orphenais fy ngyrfa, mi a gedwais y Äydd. Ö hyn allan rhoddwycl coron cyfiawnder i'w chadw i mi.' HANES BERNARD GILPIN. (Parhad o du dal. 165.) Üddeutu decbreuad y flwyddyn 1583 teirolodd Mr. Gilpin ei nerth yn gwanhau, a'r iechyd yn darfod. Gwybu fod ei ymddattodiad yn agos, a cheisiodd osod ei dŷ a'i holl or- chwylion mewn trefn. Llefarodd yr un pryd wrth ei gyfeiliion am angau gyd â'r cyfryw dawelwch ag a weddai i ddiwedd bywyd credadyn. Ni fedd- ai angau golyn mwy iddo ef, eithr efe a edrychai arno yn llawen, megis y gennad yr hwn a'i hyíforddiai ef i dý ei Dad; " canys efe a wyddai, os ei ddaearol dý o'r babell hon a ddattod- ìd, fod iddo adeilad gan Dduw, sef tý nid o waith Uaw, tragywyddol yn y nefoedd." Pan rwystrasai musgrellni henaint ìddo ymdeithio oddi cartref, treuliodd ran fawr o'i amscr yn ei ysgol, a cheisiodd osod i'r athrawon a'r ysgol- heigion y cyfryw reolau doethwych, ag a'i gwnai hi yn fendith wastadol i genhedlaethau eraill ar ei ol. Hoff iawo yw gennym ychwanegu, na siom- ẅyd y-gwrda yn ei ddisgwyliadau car- edig, a bod yr ysg:\ yn parhau yn lles- had rhágorol i'r plwyf hwnnw a*r gyöî* GORPHENAF, 1825. mydogaeth, hyd y dydd pfesennoL —Tra yr oedd ei synwyrau yn di- hoeni, ei olwg yn tywyllu, a'i glyw yn ammharu, megis cynnifer rhag- arwyddion o nesâd ei ymddattodiad, digwyddodd iddo anffawd, yr hwn a wnaeth niẃaid anniẅygiadẅy i'w iech- yd. Cafodd ei darotlawra'i sathru gan ŷch flfyrnigwyllt; a bu mewa ychydig iawn i farw yn ebrwydd o'r achos. Nid esgorodd byth ar y briwiau, eithr parhaodd yn gloíf hyd ddiwedd ei einioes. Dioddefodd, er hynny, y ddamwain chwerw hon gyd âg amyn- edd hynod-fawr. Credai yn ddiysgog mai bwriad rhagluniaeth yn ein cys- tuddioj oedd adgofio i ni ryw ddyled- swyddau a esgeulusasid gennym; ac felly pan ddeuai blinderau arno, ei arfer oedd holi ym mba beth y buasai o*r blaen yn esgeulus. Yn lîe digal- onni, a grwgnach mewn cystuddiau, eu derbyn a wnai gyda diolchgarwch a gostyngeiddrwydd. Ond nid afiechyd yn unig a fu raid iddo ei ddioddef y pryd hynny. Megis yr oedd ei nertb ef yn gwan- hau, ychwanegodd cynddeiriogrwydd ei elynion yn ei erbyn, i chwerwi a dwys-flino ei ddyddiau diweddaf. Niwaid mawr ya wir ni's gaUasent Bb