Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

SEF, CYLCHGRAWN CYMR-EIG. MEHEFIN, 1825. BUCHEDDAÜ ENWOGION YR ËGLWYS. HANES BERNÂRD GILPIN. (Parhad o du dal. %$%,) UTosodwyd eisoes o flaen y darllen- ydd helynt eyffredin y gwrda rhagorol hwn megis Gweinidog yr Efengyl. Y cyfryw oedd ei ddiwydrwydd a'i ddyfalrwydd yn gwneuthur daioni, toor wresoglawn yn achos Duw, a lla- furus er lìeshad ei gyd-ddynion, oedd ei ymddygiad, fel y gweddasai i brif- oesoedd yr eglwys, ag ni choelir yn hawdd yn yr amseroedd claiar presen- nol. Chwennychai yn fawr ochelyd rhoddi tramgwydd i neb, a cheis- iai fyw yn heddychlon â phob dyn; eithr yr un pryd dangosai ddewrder hynod yn eeryddu y drwg-weithred- ẅyr, pa un bynnag ai tlawd neu gyf- oethog fyddent, uchel neu isel. Yn byn nid arbedai hyd yn oed ei Esgob ei hun, fel y gwelir wrth yr hanesyn canlynol. Yroeddaflywodraethmawr y pryd hyn yn esgobaeth Durham, llawer o angbyfìawnderau a wnaed gan swyddogion yr Esgob, yn enwedig gan Farnwr y Ilys esgobawl; ac esgus cy- ffredin yr Esgob am y cwbl oedd, na wyddai efe am danynt. Aml waith yrachwynasid wrthoamgam-ymddyg- iad y Canghellwr, ei gar ei hún; eithr ni wnai yntau ond esgeuluso y cyhuddiadau, ac arbed yr euog. Barn- odd Mr. Gilpin fod y cyfryw esgeulus- MEHEFIN, 1825. dra cyhoeddus yn haeddu cerydd cy* hoeddus; a rhoddes yr Esgob ei hun iddo gyfleusdra cyfaddas, trwy orchy- myn iddo ryw ddydd bregethu^ o'i flaen ef a nífer mawr o offeiriaid ym- gynnulledig yn y dref honno. Ceis- iodd Mr. Giìpin ar y cyntaf esgusodi ei hun, gan honni nad oedd ganddo bregeth ysgrifenedig, ac mai anwedd- us oedd irido bregethu yn ddifyfyr o flaen y cyfryw gynnulSeidfa ardderch- og. Eithr cymhellwyd y gorchwyt arno, ac esgyn a wnaeth i'r areithfa, Ile y gwelai amryw ewyllyswyr drwg yn parottoi eu pinnau ysgrifennu í goffhau pob ymadrodd a aílai fod yn arhos o gyhuddiad. Llefarodd yntau yn y dechreuad ar feiau a dyledswydd- au eraill, ei frodyr o is-radd, adangos- odd iddynt mor angenrheidiol oedd iddynt edifarhau a diwygio. Eithr tua diwedd y bregeth, efe a drodd at yr Esgob ei hun, ac areithiodd wrtho yn y modd canlynol:— '• Rhaid i mi yn awr, barchedig dad, lefaru wrthych chwithau, Duw a'ch derchafodd chwi i fod yn bennaeth yr esgobaeth hon, ac efe a ofyn gennych gyfrif am eich llywodraeth. Disgwyl- ir arnoch ddiwygio pob peth sydd yn feius yma yn yr eglwys. Yn awr, yn gymmaint ag y gwneir yn amlwg ysgnlerderau anferth ym mhob man, ihag atteb o honoch nad achwynwyd