Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

GWYLIEDYDD; CYLCHGRAWN c'y'MRBIŴ EBRILL, 1825. BUCHEDDAU ENWOGION YR EGLWYS. HANES BERNARD GILPIN. (Parlmd o du dal. 67.) \ r oedd anwybodaeth cyffredinol y wlad, ac yn enwedig y parthau gog- leddol o'r deyrnas, mor fawr y pryd hynny, fel y cynhyrfai dristwch medd- Wl ym mhob dyn ystyriol. Ychydig oedd o ysgolion, ac annysgedig fyddai yr athrawon y rhan amlaf ynddynt. Sefydlasid llawer o ysgolion gan y breohiu duwiol lorwerth yn amryw fannau; eithr, er i'r rhai'n ddwyn cynnyrch helaethlawn wedi hynny, nid oeddynt etto wedi gwneuthur memawr o leshad. Cydnabyddai, er hynny, pawb synwyr-gall, mai y moddion goreu i chwalu tartb an- wybodaeth ÿn y wladwriaeth, oedd trwy sefydlu ysgolion yma a thraw. Megis nad oedd neb yn galaru mwy na Gilpin, o herwydd annysgeidiaeth cyffredinol yr oes; felly, ni ymdrech- odd neb yn fwy diwyd i daenu gwyb- odaeth fuddiol. Efe a sefydlodd ys- gol yn ei blwyf, effeithiau yr hon fu yn llesfawr hynod yn ei fywyd ei hun, megis hefyd yn fendith i gen- hedlaethau olynol ar ol ei farwolaeth. Er y cymmerai bob gofal cymmwys i ddewis athrawon dysgedig a buchedd- ol o'r brif-ysgol, nid esgeulusai obleg- id hynny hyfforddio ac annog y plant trwy ei oruchwyliaeth barhaus ei hun. EBRILL, 1825. Cymmerai syìw neillduol o'r ysgol- heìgion goreu, danfonai am danynt i'w dŷ ei hun, a rhoddai iddynt beth addysg yno. Aml waith, pan gyfar- fyddai â bachgen tíawd ar y ffordd, arferai ei holi yn fwynaidd, er profi eu cynbeddfau; ac, os boddlonid ef ganddynt, efe a ddarparai y rhoddion i'w gadw yn ei ysgol. Eithr ni pheidiodd ei ofal pan ymadawsant o'r ysgol. Edrychai ar bawb o ymar- weddiad da megis ei blant ei hun, a chynnaliai draul y mwyaf doniol o honynt yn Rhydychen. Rboddai beth cynnorthwy i eraill, y rhai y byddai eu rhîeni yn rhy dlawd i gyn- nal yr holl draui. Rhag iddynt ang- hofio, neu roi heibio yr egwyddorion da a ddysgasant yn yr ysgol, efe a ysgrifenai yn fynych at y gwyr ieu- aingc eu hunain, megis hefyd at eu hathrawon, i holi ynghylch eu buch- eddau, ac i'w hannog i barhau mewn ymarweddiad da. Gorchymynai i'r ys- golheigion fynegi iddo, trwy lythyrau, hanes eu hastudiaeth o amser i amser, ynghyd â helynt* y brif-ysgol. Ac * Rhoddir yn un o'r llythyrau, a ysgrifen- wyd yn ol gan ẃr ieuangc, hanes am afiech- yd rhyfeddol a fu yn Rhydychen yn yr oes honno.—" Y mae yr afiechyd dychrynfawr presennol, yr hwn a glywsoch sôn am dano, yn ofnadwy iawn. Bu farw o hono y chwe' diwrnod cyntaf byratheg a phedwar ugai», o