Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CYLCHG-RAWN CYMREIG. MAWRTH, 1825. BUCHEDDAÜ ENWOGION YR EGLWYS. HANES BERNARD GILPIN. (Parhad o du dal. 36.) Xan gymmerodd gyntaf feddiant o blwyf Houghton, yr oedd cyflwr y Person-dý mor adfeiliedig, fel na's gallai gyfanneddu ynddo. Ei ofal cyntaf oedd adgyweirio rhai o'r ys- tafelloedd, fel y gallai yn ebrwydd breswylio ym mhlith ei blwyfolion; eithr parhaodd i'w wellhau ac i ychwanegu atto, hyd onid oedd yn breswylfa gymmwys i'w gyflwr yn y byd, ac i anferth letteugarwch yr oes honno. Cafodd yr Esgob gyfleusdra arall i gynnyg iddo le newydd eglwysig; yr hwn, gan ei fod yn perthyn i Esgob- tŷ Durbam, heb ddim gofal plwyfol yn perthyn iddo, a dybiodd y gallai fod yn dderbyniol gan Gilpin. Eithr efe a wrthododd y cynnygiad newydd hwn hefyd, gan atteb, ** ei fod eisoes wedi rhoddi iddo fwy o gyfoeth nag (yr oedd yn ofni) y medrai roi cyfrif da am dano. Deisyfodd gan hynny ar- no beidio ychwanegu at ei ofalon." Da y gwyddai yr Esgob nad oedd wiw dirgymmell iddo yr hyn nid oedd ei gydwybod yn ei gymmeradwyo; ac felly ni soniwyd wrtho mwy am y fywiolaeth yn Esgob-tý Durham. Yntau a ymneiilduodd yn hollol i waith y weinidogaeth, gan gynghori mawrth, 1825. a rhybuddio et bobl gyda phob ffydd- londeb, a'r un pryd arddangos iddynt esampl o weithredoedd da. Mawr oedd ei barch gyd â'i blwyfolion; ei gâr a'i gyfaill oedd yr Esgob, ac nid oedd ueb duwiol yn elyn iddo. Eithr er y chwennychäi fyw yn heddychol â phob dyn, a gochelyd rhoi achos an- foddlonrwydd i neb, ni phrofodd ddim ond casineb gan ei gyd-offeiriadon. Yr oedd ei ddichlynrwydd a'i lafur- waith dyfal yn y weinidogaeth yn dy- chanu eu hanniofalwch hwynt, ac yn peri iddynt ei gasáu yn wastadol. Iaith eu calonnau oedd, " Wrth fyw fel hyn yr wyt ti yn ein gwaradwyddo ninnau." Gan hynny, bwriadu a wnaethant, os byddai dichonadwy, andwyo gwr oedd yn eu gwarthruddo gymmaint trwy ei ymddygiad diargy- hoedd. Lle bynnag y bydd atgasrwydd dygn a bywiog, ni bydd dros hir am- ser ddiffyg achosion cyhuddiad. Yr oedd llygaid y gymmydogaeth oll ar- no ef, ac amgylchwyd 'ef â chyfeillion bradus cyfrwys-ddrwg, y rhai oedd- ynt barod i fynegi pob gweitbred o'i fywyd. Digwyddodd yr amser hyn i wraig ar enedigaeth dyn bach weddio yn daer ar Dduw, eithr ei chyfeillesau a'i ceryddasant yn ddwys, o herwydd na alwasai ar y Forwyn Fair. Hithau yn ei dirfawr ddychryn, ac yn chwen-