Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y GWYLIEDYDD. RHAGFYIÌ, 1830. 11 ". SỲLWADAÜ AR HEB. ii. & (Parlúd o du dal. 369 J III. Y mawr berygl o'r fath yni- ddygiad. " Pa född y diangwn ni, os esgeuluswn iaehawdwriaeth gyramaint?" A ddiangwn ni rhag eiddigedd yr Hollalluog Dduw, y Bod hwnw yn nwylaw pa un y mae canl'yniadau bywyd a marwolaeth? Onid ennyna ei lid megys tân yn erbyn y rhai hyny a esgeulusasant yriechydwriaeth, yr hon a barotôdd efe gyd â'r fath ddoethineb, gan ei gosod o'n blaen raewn mawr ostyng- eiddrwydd, ac yn ein gwahodd oll i fod yn gyfranogion o honi, a hyny mewn trugaredd a daioni rhyfedd- ol? Iachawdwriaeth ydyw a bwr- caswyd â chymmaint gwerth, dím Uai na gwaed ei anwyl Fab, yr hwn ni's arbedodd efe, ond a'i traddod- odd i angeu yn rhad drosom ni oll: iachawdwriaeth ydyw a ddygwyd o fewn ein cyrhaeddiadau trwy ẃeithrediad yr Ysbryd Glân, yr hwn a roddir i bawb a'i çeisiant mewn gweddi daer a difrif: iach- awdwriaeth a amlygwyd mor eglur yn y llyfr sanctaidd, y Bibl, yr hwn yr ydym bawb yn ei feddian- nu yn awr morrhad: iachawdwr- iaeth, sydd yn gymmwys ym mhob inodd i'n bendithio, ac i'n gwneud yn ddedwydd yma, ac yn y byd nesaf; i'n rhyddhau ni yma ar y ddaear rhag holl ddrygau y cwymp a'i drueni, ac i ehangu ei bendith- RHAGFYR, 1830. ion tu hwnt i'n dychymmygion a'n meddyliau yr awr hon tros holl oesoedd diderfyn tragywyddoldeb. A ellir esgenluso yn ddiogel yr holl ddarpariad hwn o drugaredd ddwyfol, yr holl ymddangosiad dysglaer hwn o gariad a gras nefol? A fedr efe, yr hwn (trwy ba ryw achos bynag) sydd yma yn nydd ei ymweliad yn esgeuluso neu yn gwrthod yr efengyl, gaííael dim i'w gynnyg er lleihau a thynu ymaith ei euogrwydd? Fel y dywedodd ein Harglwydd bendigedig gynt am yr Iuddewon, yn yr un modd y llefara efe mewn perthynas i chwi os esgeuluswch ef: " Oni bai fy nyfod a llefaru wrthynt, ni bu- asai arnynt bechod; ond yr awrhon nid oes ganddynt esgus am eu pechod." Y'mhellach, pa fodd y diangc neb o honom ni, os esgeul- uswn iachawdwriaeth mor fawr? i ba le y íFown am ddiogelwch? at bwy arall yr awn, ond at yr hwn sydd ganddo eiriau y bywyd tra- gywyddol? A oes unrhyw grefydd arali yn y byd a chanddi rith o wirionedd yn perthyn iddi, heb- law crefydd yr efengyl?" a pha beth fydd yr efengyi ei hun os cauwn allan Iesu Grist fel Iach- awdwr? Pa ryw le o nodded a gawn ni i'n hamddiífyn rhag y Bod hwnw, yr hwn y darfu i'n pechodau cyn amled ei ddigio (fel y tystiolaetha ein cydwybodau ni oll) oddieithr yr Iachawdwr sydd ooo