Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR AEWEINYDD. Rhip. 71.] TACHWEDD, 1881. [Cyf. VI. ADGYFODIAD CRIST. Y mae Anffyddwyr a Christionogion yn caniatâu mai adgyfodiad yr Iesu ydyw yr erthygl sydd i benderfynu y pwnc mewn dadl rhyngddynt. Os nad adgyfododd, y mae Cristionogaeth yn peidio bod yn grefydd ddwyfol sydd yn cyfarfod âg angenion dyn. Os adgyfododd, y mae hyny yn sicrwydd terfynol mai yr Iesu yw y Crist, Mab Duw, ac mai yn ei enw ef y caiff dynion fywyd tragywyddöl. Yn yr amser gynt gẃrthddadl yr an- ffyddiwr oedd mai twyllo yr oedd y dysgyblion pan haerent fod yr Iesu wedi adgyfodi. Ond y mae pawb erbyn hyn wedi rhoi yr wrthddadl hon i fyny. Yn ein dyddiau ni athrawiaeth yr anffyddiwr ydyw na fu yr Iesu farw o gwbl, ond mai mewn llewyg yr oedd hyd fore y trydydd dydd. Addefir fod y dysgyblion yn dyweyd yr hyn a welsant yn hollol onest, ond eu bod wedi camgymeryd wrth dybied £od yr Iesu wedi marw. Ond y mae hyn yn anmhosibl. Yr oedd y milwr yr hwn ni fỳnai dòri esgyrn yr Iesu, yn credu ei fod wedi trengu. Yr oedd Joseph o Arimathea a Nicodemua yn perarogli ei gorff ac yn ei gladdu. A pha fodd y gallasai, pan y deffrôdd o'i lewyg yn ei fedd, symud ymaith y maen yn y fath wendid ? Ac wedi symud y maen, pa