Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YE ARWEINYDD. Rhif. 70.] HYDREF, 1881. [Cyf. VI. NODIADAU YSGRYTHYROL. " Canys os bendithi â'r ysbryd, pa wedd y dywed yr hwn sydd yn cyflawni lle yr anghyfarwydd, Amen, ar dy ddodiad diolch, gan nas gŵyr beth yr wyt yn ei ddy- wedyd?"—1 Cor. xiv. 16. Nis gall fod nemawr o amheuaeth mai cyfeirio y mae y gair " anghyfarwydd" yn yr adnod hon at yr aelod hwnw o'r eglwys sydd heb ddawn ysbrydol. Y mae Chrysostom, a'r esbonwyr sydd yn y cyffredin yn ei ddilyn, sef Theodoret, OScumenius, a Theophylact, yn nghydag Olshausen, yn mhlith esbonwyr diweddarach, yn canfod yn yr ymadrodd hwn y gwahaniaeth rhwng gweinidogion urddedig a lleygwyr—the clergy and the laity. Y mae ereill o'r tadau eglwysig yn barnu mai yr " aelodau dan brawf," fel y galwn ni hwynt, neu y catechumeni, fel y gelwid hwynt yn y Brif Eglwys, a olygir wrth y rhai anghyfarwydd. Ond nid oes seiliau digonol dros gredu fod y naill a'r llall o'r gwahaniaethau hyn wedi eu sefydlu yn Eglwys Corinth pan yr ysgrifenai yr Apostol y llythyr hwn. Heblaw hyny, ystyr naturiol y gair Idiôtês, yr hwn a gyfieithir yma " anghyfarwydd," ydyw un heb dderbyn rhywbeth neillduol y sonir am dano ar y pryd, ac felly, yn yr adnod hon, y neb sydd heb dderbyn y ddawn o wedd'io yn gyhoeddus yn yr eglwys.