Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YE ARWEINYDD. Rhif. 69.] MEDI, 1881. [Cyf. VI. CULNI A RHAGRITH. Y mae o'r pwys mwyaf, os dymunwn beidio gwneyd anghyfiawnder â dynion, ein bod yn gwahaniaethu rhwng culni a rhagrith. Ar un olwg ymddengys y ddau fel eithafion gwrthgyferbyniol i'w gilydd. Yr oedd culai yn yr Apostol Pedr pan wrthodai fwyta gyda'r cenedloedd; ond nid oes neb y mae ei ddiragrithrwydd yn fwy diamheuol. Ond ar olwg arall y mae perthynas agos rhyngddynt, ac anhawdd weithiau ydyw penderfynu pa un ai culni ái rhagrith sydd yn ysgogi dynion. Y mae culni yn arwain i ragrith. Canys un agwedd gyffredin ar gulni ydyw yr arferiad o gondemnio £el pechod yr hyn nad yw yn bechadurus. Gall y dyn fod yn hollol onest wrth wneyd hyn. Ond y canlyniad yn fynych ydyw ei fod yn myned i chwilio am resymau dros ei ymddygiad, a phan na chaiff resymau ar sail gwirionedd, yn cael ei demtio i wneyd rhith o resymau ac adeiladu gau foes- oldeb celfyddydol; ac y mae y dyn yn rhagrithiwr bron yn ddiarwybod iddo ei hun. Drachefn, pan y mae dyn yn condemnio mewn arall yr hyn nad yw mewn gwirion- edd yn bechadurus, y mae mewn temtasiwn i esgusodi ynddo ei hun yr hyn sydd yn bechadurus. Trwy geisio dwyn ei hun i gredu ei fod ef yn gyfiawn a sanctaidd, y gall ymwroli yn ddigonol i godi ei lef yn gyhoeddus yn erbyn ei frawd am wneuthur y peth sydd yn ddiniwed; ac y mae gallu rhyfedd gan ddynion i gredu y goreu am danynt eu hunain, ac esgusodi yn eu buchedd yr hyn sydd yn llawer mwy pechadurus na'r hyn a gondemniant raown arall. Fel hyn y mae culni yn gymydog agos i