Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR ARWEINYDD. Rhif. 68.] AWST, 1881. [Cyf. VI. Y CYFIEITHIAD DIWYGIEDIG O'R TESTA- MENT NEWYDD. Yn Rhuf. v. 1, y mae y Diwygwyr wedi newid y dar- lleniad o echòmen i echômen; h.y., yn lle " y mae genym heddwch," y cyfieithiad newydd ydyw "bydded genym heddwch." Y mae y prif lawysgrifau yn darllen echômen, sef Siu. A B C D ; rhaid i ni, gan hyny, dderbyn y cyf- newidiad. Ond y mae egluro ystyr y frawddeg yn ol y cìarlleniad hwn yn anhawdd. Y"r esboniad cyffredin ydyw fod yr Apostol yn anog ei ddarllenwyr i goleddu heddwch yn eu cydwybodau ar sail y cyfiawnhad a dderbyniasant. Y mae un ysgrifenwr yn yr Expositor yn cynyg yr es- boniad a ganlyn : " Byddem genym heddwch tuag at Dduw trwy dderbyn y cyfiawnhad." Marc ix. 23.—Dyma gyfnewidiad tra phrydferth. ITn yr adnod flaenorol dywed y dyn wrth yr Iesu, " Os gelli di ddim, cymhorth ni." Yn ol yr hen ddarlleniad ateb yr Iesu ydyw, " Os gelli di gredu," &c. Ond yn ol y •larlleniad cywir, yr hwn a fabwysiadwyd gan awdwyr y cyfieithiad diwygiedig, fel y canlyn yr etyb yr Iesu,— " Am yr ' os gelli,' pob peth a all fod i'r neb a gredo ;" neu, " Os gelli! Pob peth a all fod i'r neb a gredo."