Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR ARWEINYDD. Rhif. 67.] GORPHENAF, 1881. [Ctf. VI. YR YSGRYTHYRAU. Crynodeb oV sylwadau a imaethpwyd yn Nghyfarfod Mìsol Tabor. Wrth yr Ysgrythyrau y golygir y Bibl: Casgliad ydyw y Bibl o ysgrifeniadau y prophwydi, yr efengylwyr, a'r apostolion, yn cynwys athrawiaethau a hanes crefydd ddatguddiedig. Y mae nifer y llyfrau ag sydd yn cynwys yr Ysgrythyrau Sanctaidd yn dri-ugain a chwech, a'r cyfryw wedi eu hysgrifenu gan gynifer a deg-ar-hugain o wahanol bersonau. Wedi i'r llyfrau gael eu hysgrifenu gan wahanol awduron ysbrydoledig, fe'u casglwyd yn un Uyfr gan yr eglwys trwy gyfrwng personau unigol neu íîynadledd o bersonau. Y mae yn draddodiad yn mysg yr Iuddewon i lyfrau yr Hen Destament gael eu casglu gan Ezra, a nifer o ddynion sanctaidd ereill, y rhai a ffurfiasant " Y Synagog Fawr;" yn gyffelyb ag y dy- wedir gan yr Iuddewon mai Ezra a gasglodd lyfrau yr Hen Destament i'r Canon, y mae wedi bod yn dybiaeth yn yr eglwy8 Gristionogol mai Ioan gasglodd lyfrau y Testament Newydd yn un. Dywedir nad oes unrhyw brawf o hyny; ond y mae y ffaith i Ioan oroesi yr apostolion ereill yw unig sail y dybiaeth. Pwy bynag