Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR ARWEINYDD. Rhif. M.] MEHEFIN, 1881. [Cyf. VI. Y CYFIEITHIAD DIWYGIEDIG Ö'R TESTA- MENT NEWYDD. Yr ydym yn gosod ger bron ein darllenwyr gyfres o'r cyfnewidiadau pwysicaf sydd wedi eu gwneyd yn y cyfieithiad diwygiedig o'r Testament Newydd sydd new- ydd ei gyhoeddi. Rhoddwyd hanes eisoes yn Yr Ar- WEiNrbD am yr amcan hwn o ddwyn allan gyfieitbiad newydd o'r Ysgrythyrau, fel nad oes angen i ni ail adrodd. Ni a gymerwn ddau o lyfrau y Testament Newydd fel angliraifft; ac er mwyn y darllenydd uniaith ni a osodwn i lawr y cyfìeithiad Cymraeg presenol yn y naill golofn, hc yn y golofn arall y cyfieithiad diwygiedig, ond yn Oymraeg. Oan hyny ni a adawn allan yr holl gyfnew- idiadau yn y cyfieithiad Saesneg oedd eisoes wedi eu mabwysiadu yn y Bibl Cymraeg. Y mae yn ddyddorol iawn i ni weled fod nifer mor fawr o'r diwygiadau a ddygwyd yn awr i mewn yn y Bibl Saesneg i'w cael eisoes yn y Bibl Cymraeg. Ni raid i neb ond darllen yr Epistol at y Rhufeiniaid yn y Bibl Cymraég, a'i gy- mliâru â'r cyfieithiad awdurdodedig a'r cyfieithiad diwyg- icdig yn Saesneg, i gael digon o brofion fod y cyfieithiad Cymraeg wedi ei wneyd o'r iaith wreiddiol, a'i fod yn Hiagorach o gryn lawer na'r cyfieithiad Saesneg.