Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR ARWEINYDD. Rhif. 65.] MAI, 1881. [Cyf. VI. OHERWYDD YR ANGYLION. Ceir yr ymadrodd hwn yn 1 Cor. x. 8. Ymdrechwn yn yr ysgrif hon roi brasolwg i'r darllenydd ar yr amrywiol olygiadau a gynygir gan esbonwyr ar y geiriau auhawdd hyn, ac ystyried pa un yw yr esboniad cywir. Yn gyntaf, cynygia un ysgrifenwr adael y geiriau allau. Ond y maent yn yr holl lawysgrifau henaf, ac y mae yn anmhosibl i ni dybied fod neb yn rhoi y fath frawddeg anhawdd i mewn, os nad oedd hi eisoes wedi ei ilioi i mewn gan yr Apostol. Rhaid i ni wrthod y gol- ygiad hwn. Yn ail, y mae y Tadau Eglwysig, cyn Cynghor Nicsea, megys Tertullian, Justin Ferthyr, a Chìement o Alex- andria, yn meddwl fod yr Apostol yn cyfeirio at yr angylion syrthiedig, ac mai yr ystyr ydyw y dylai y gwragedd osod gorchudd ar eu penau rhag i'r angylion 'lrwg, wrth weled eu gwynebau, gael eu temtio i an- lladrwydd. Fel hyn hefyd yr esboniant Gen. vi. 2. l> Meibion Duw " ydyw yr angylion, y rhai. a bechasant trwy anlladrwydd. Y mae y golygiad yn hollol an- laturiol, ac yn perthyn i ddull o synied am yr angylion, yr hwn sydd wedi diflanu o'r Eglwys Gristionogol er's °esau. Yr oedd y syniad o angylion anllad wedi diflanu