Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR ARWEINYDD. Rhif. 64.] EBRILL, 1881. [Cyf. VI. Y TESTAMENT SAESONEG DIWYGIEDIG. Y mae yn eithaf hysbys i niferjhaosog o ddarllenwyr Yr Arweinydd fod dau gwmni wedi cael eu ffurfìo er's dros ddeng mlynedd bellach, un yn Lloegr, a'r llall yn America, yn gynwysedig o brif ysgoleigion a duwinyddion y ddwy wlad. Ceir yn eu mysg rai yn perthyn i, neu yn cy- nrychioli pob plaid grefyddol. Y nifer perthynol i'r cwmni yn Lloegr ydoedd 25. Eu hamcan ydoedd cywiro y Testament Saesoneg awdurdodedig presenol. Dechreu- odd y cwmni yn Lloegr ar eu gwaith Mehefin 22ain, 1870. Cyfarfyddent yn y Jerusalem Chamber, West- minster Abbey, bob mis, neu yn hytrach caent ddeg cyfarfod mewn blwyddyn, ac eisteddent o 11 yn y boreu hyd 6 yn yr hwyr, am bedwar diwrnod bob tro. Rhaid cofio fod pob un wedi myned-4ros y gyfran o'r gwaith oedd i fod dan sylw gartref, cya y cyfarfod. Ac felly, wrth gyfrif pedwar eisteddiad, am 7 awr bob tro, ddeng waith yn y flwyddyn am dderig mlynedd, ceir eu bod wedi eistedd gyda'u gilydd, heb son dim am eu llafur yn eu cartref-leoedd, am y nifer lluosog o 2,800 o oriau* Ac erbyn tua'r Hydref diweddaf yr oeddynt wedi gor- phen eu gwaith. Cawsom addewid, unwaith, y cyhoeddid y Testament Newydd yn nechreu Ionawr y flwyddyn hon, ond rywfodd daeth anhawsderau nas gellid eu rhagweled ar ei ffordd. Ond sicrheir ni yn awr y caiff ei gyhoeddi )n Mehefin nesaf