Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR ARWEINYDD. Rhif. 63.] MAWRTH, 1881. [Cyf. VI. YR ANGEN AM DDIWYGIAD. Gan fod Mr. W. Jones yn ein gwahodd mor dirion o'r Dê a'r Gogledd, yr wyf yn anfon y llinellau a ganlyn. Yr achlysur o'u hysgrifenu oedd fel hyn. Wedi i mi anfon yr hyn a ymddangosodd dro yn ol dan yr enw, "Trefn Duw i wella'r byd," teimlais ei fod yn deehreu braidd yn sydyn, ac y byddai yn well cael rhyw gymaint o arweiniad iddo, i ddangos yr anghen am y Drefn. Ond gellir cymeryd y darn hwn a'r hyn a ymddangosodd o'r blaen fel un Awdl; ac yr wyf yn rhagddodi pedair llinell fel cynwysiad yr holl gyfansoddiad. Byd, a'i glefyd, a'i glwyfau, A threfn draehefn i'w iachau, Gan ein cyfion dirion Dad, Yw 'n fyr swm fy rhesymiad. Pa hryd y daw'r byd i'w bwyll 0 rwym ei ddirfawr ammhwyll? Pa bryd y daw hyfryd hin 1 wawrio ar y werin ? Pan ddaw gwên pur lawenydd Drwy naws dda dry nos yn ddydd; Cyfiawnder a mwynder mad I'w gilydd yn rhoi galwad; Dydd yr hedd, a dydd rhyddid, Pan fydd gras yn lluddias Uid;