Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR ARWEINYDD. Rhif. 62.] CHWEFROR, 1881. [Cyf. VI. Y MESSIA A'R GAIR. Un o'r profion cryfaf o wirionedd Cristionogaeth ydyw— fod yr Arglwydd Iesu wedi cyflawni pob peth oedd wedi cerdded o'r blaen, mewn ffordd o barotoi y byd at Waredwr. Dyma yn wir y prawf mawr. Y mae mor ëang, fel y mae yn cynwys, mewn rhyw ffurf, yr holl brofion ereill. Ar hyn y mae yr holl ddadl yn troi. A ddarfu i Iesu o Nazareth " gyflawni ? " A ddarfu iddo " lenwi pob peth ? " Wrth edrych ar hanes y byd a'r Eglwys cyn ei ddyfodiad, ac edrych ar ei hanes yntau— gan eu dal ar gyfer eu gilydd, a ellir dyweyd yn ddibetrus -"a gyflawnodd Efe fel hyn ? " Nid yw yn bosibl deall hanes y grefydd Iuddewig, na hanes y byd Paganaidd yn ei wladwriaeth a'i grefydd, lieb edrych ar y cwbl fel gwahanol oruchwyliaethau i barotoi y byd at Waredwr dwyfol-ddynol. Yr oedd y moddion i hyn yn dra amrywiol. Ond y mae y dyben hwn yn esbonio y cwbl. Y mae yr allwedd yn ateb i holl droadau y clo. Ac anturiwn ddyweyd nad oes yr UQ arall a wna hyny. Pa egwyddor arall a esbonia hanes y byd cyn Crist? A oes rhyw ddehongliad arall yn unoli holl amrywiaeth y gweithrediadau dwyfol am fíloedd o flynyddoedd, trwy ddangos nod neu ámcan a